Pob Can yn Cyfri ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor am wella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr 11,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff drwy ymuno â “Pob Can yn Cyfri”.
Cyflwynodd y Brifysgol finiau ailgylchu ‘Pob Can yn Cyfri’ mewn wyth lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ailgylchu caniau diod tra eu bod ‘ar fynd’. Mae hyn yn rhan o strategaeth wastraff ehangach y Brifysgol i wneud gwell defnydd o adnoddau ac atal gwastraff rhag cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddeunydd â phosibl. Cafwyd ymgyrch arlwyo atal ac ailddefnyddio – ‘Ystyried Cyn Yfed’ ei lansio yn gynharach eleni; cyflwynwyd casgliad ailgylchu newydd ar gyfer plastig labordai ar draws y campws ym mis Medi, felly dyma'r drydedd fenter wastraff newydd ym Mangor yn ystod 2019.
Lansiwyd ‘Pob Can yn Cyfri’ fel rhan o Wythnos Am Wastraff #WAW19, ymgyrch flynyddol Prifysgol Bangor. Derbyniodd myfyrwyr a staff e-bost yn eu hysbysu o'r ymgyrch a chafodd y biniau newydd eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ac i annog myfyrwyr a staff i ailgylchu mwy wrth gerdded o amgylch y Brifysgol.
Dywedodd Gwen Holland, Swyddog Ymchwil Cynaliadwyedd a Chydlynydd Gwastraff y Campws: “Roedd Prifysgol Bangor yn falch iawn fod yr ymgyrch ‘Pob Can yn Cyfri’ wedi cysylltu â ni. Bachwyd ar y cyfle i dderbyn biniau ailgylchu ‘wrth fynd ’ar gyfer y campws. Mae gennym gyfleusterau ailgylchu helaeth tu fewn i’n hadeiladau ond rydym yn ymwybodol ein bod yn dal i golli deunydd gwerthfawr pan fydd ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr allan o gwmpas ar y campws. Mae caniau alwminiwm yn ddeunydd gwych i'w gasglu gan eu bod yn rhan o gylch caeedig. Hynny yw, mae’n bosib eu hailgylchu drosodd a throsodd, am byth, heb golli ansawdd a thrwy wneud hyn dim ond 5% o'r ynni sy’n cael ei ddefnyddio i greu'r cynnyrch o'r newydd sy’n cael ei ddefnyddio. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hwn yn gam arall eto i sicrhau bod deunydd gwerthfawr yn cael ei gasglu yma ym Mangor i’w ailgylchu yn hytrach na’i golli drwy ei anfon i’r safle adfer ynni. ”
Dywedodd Julie Meeks o ‘Pob Can yn Cyfri’: “Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â’r rhaglen ‘Pob Can yn Cyfri’ am fod ganddynt ethos rhagweithiol tuag at wastraff. Drwy weithio gyda’n gilydd rydym am wella ailgylchu ar draws y campws trwy gyflwyno’r biniau ‘Pob Can yn Cyfri’. Rydym yn annog mwy o golegau a phrifysgolion i gymryd rhan a dechrau gweithio gyda'r rhaglen ‘Pob Can yn Cyfri’ a hynny am ddim. Rydyn ni yma i helpu prifysgolion i hyrwyddo’r cyfleusterau ailgylchu sydd ganddyn nhw’n barod, neu i ddechrau cynllun ailgylchu newydd sbon.”
Os ydych am fwy o wybodaeth ar sut y gall eich busnes neu sefydliad ymuno â ‘Pob Can yn Cyfri’ ewch i www.everycancounts.co.uk neu ffoniwch 01527 597 757.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:
“Rwy’n falch o weld Prifysgol Bangor a’r rhaglen Every Can Counts yn cynyddu cyfleusterau ailgylchu ar y campws ymhellach. Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu ond rwyf am inni fynd ymhellach a gwneud Cymru yn brif wlad ailgylchu yn y byd. Dyna pam rwyf wedi lansio lansiais ymgynghoriad ar gynyddu ailgylchu gan fusnesau ac eiddo annomestig, fel Prifysgol Bangor. Bydd y cynigion newydd ar gyfer rheoliadau sy’n cael eu cyhoeddi yr wythnos hon yn helpu ac yn cefnogi busnesau i gyrraedd y targed hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pawb sy’n cael eu heffeithio gan y rheoliadau newydd arfaethedig yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Er mwyn dweud eich barn ar yr ymgynghoriad rheoleiddio Gwastraff Busnes, ewch i https://gov.wales/consultations.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2019