Pobl ein dinas: Y ffordd mae pobol ifanc Bangor yn ei gweld hi
Cynllun Murlun Celf Bangor
Yn ddiweddar penodwyd yr artist Catrin Williams i arwain cynllun celf gymunedol ‘Pobl Ein Dinas’, prosiect ar y cyd rhwng Rhaglen Pontio, Prifysgol Bangor a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Bwriad y cynllun yw creu murlun mawr o waith pobol ifanc Bangor ar furiau safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesedd newydd. Yn ystod y mis diwethaf mae Catrin wedi bod yn cydweithio â Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor ar gyfres o weithdai celf yn Ysgol Tryfan ac yng Nghanolfan Ieuenctid Maesgeirchen. Mae’r dyluniad, sydd bron wedi ei gwblhau, yn cynnwys casgliad o bortreadau’r rhai a greodd y gweithiau ynghyd â phobl sy’n bwysig iddynt, eu ffrindiau a’u teuluoedd ..ac ambell gymeriad adnabyddus arall!
Mae’r gweithdai hyn wedi cynnig cyfleoedd gwych i’r bobol ifanc gymdeithasu a gweithio fel tîm yn ogystal ag ymarfer eu sgiliau creadigol. Drwy ymgymryd â’r cynllun celf hwn bydd y disgyblion yn gweithio tuag at amrywiol gymwysterau. Meddai Nia Owen, Swyddog Ieuenctid Ysgolion Uwchradd Bangor…
“Mae hi wedi bod yn bleser gweld y bobl ifanc yn datblygu yn ystod y gweithdai. Mae eu sgiliau celf wedi cryfhau a braf fydd gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei arddangos mewn lleoliad mor amlwg yng nghanol y Ddinas.’
Cyn hir bydd y gwaith yn cael ei osod ar fyrddau pren y safle adeiladu, gan wynebu ffordd brysur Deiniol, lle mae cannoedd o bobol yn pasio bob dydd i mewn ac allan o ddinas Bangor, Gofod teilwng i waith celf greadigol a fydd nid yn unig yn denu sylw’r cyhoedd at bosibiliadau cynhyrfus yr adeilad newydd sy’n codi o’r tu ôl, ond hefyd yn rhoi stamp unigryw ieuenctid Bangor heddiw ar y lle; eu ffordd liwgar, ddoniol a difrifol nhw o weld eu hunain a’r ddinas o’u hamgylch.
Bydd murlun Pobl Ein Dinas yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni llawn hwyl a chyffro ar fore Iau, 8 Rhagfyr 2010 .- gyda’r artist, y cynorthwywyr a’r holl ieuenctid a greodd y gwaith yn bresennol- ynghyd a chynrychiolaeth o’r holl gyrff a gefnogodd y cynllun. Bydd yr union fanylion yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser. Mae croeso i gynrychiolwyr o’r wasg a’r cyfryngau fynychu’r digwyddiad.
Ariennir y cynllun gan Fforwm Celfyddydau Gwynedd, Cyngor Gwynedd, Prifysgol Bangor a Chyngor Celfyddydau Cymru.
http://www.pontio.co.uk/home.php
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2010