Pobl ifanc yn mwynhau profiad prifysgol
Mae aelodau clybiau ieuenctid o bob cwr o ogledd orllewin Cymru wedi bod yn dysgu mwy am addysg uwch yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae nifer o glybiau ieuenctid yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi cymryd rhan mewn menter newydd gan y brifysgol i roi cyfle i hyd yn oed mwy o bobl ifanc gael golwg ar fywyd prifysgol. Mae'r bobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed wedi cymryd rhan mewn sesiynau gweithdy gyda'r nod o gynyddu dyheadau a chodi ymwybyddiaeth o addysg uwch.
Bu'r grwpiau hefyd yn ymweld â'r Brifysgol i brofi bywyd myfyrwyr trwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar Safle'r Ffriddoedd. Ymhlith y gweithgareddau eraill oedd ymweld â'r Amgueddfa Hanes Naturiol a'r Ysgol Seicoleg. Trwy gydol y project roedd myfyrwyr presennol Bangor wrth law i helpu gyda'r gweithgareddau, yn sicrhau bod gan aelodau'r clybiau ieuenctid ddigon o gyfleoedd i ofyn iddynt am eu profiadau a dysgu mwy am y Brifysgol.
Un o'r clybiau ieuenctid a fu'n cymryd rhan oedd Clwb Ieuenctid Talysarn yn Nyffryn Nantlle, ac roedd arweinydd y clwb ieuenctid, Nick Thomas, yn canmol y project.
“Mae wedi bod yn gyfle gwych i'r bobl ifanc sylweddoli beth y gallant ei gyflawni ac maent wedi dysgu llawer am beth yw addysg uwch mewn gwirionedd," meddai Nick. "Maent hefyd wedi cael llawer o hwyl yn cael blas ar fywyd myfyrwyr!"
"Mae'r bobl ifanc wedi mwynhau'r sesiynau'n fawr iawn, yn arbennig ymweld â'r Brifysgol ei hun a chyfarfod â rhai o'r myfyrwyr yma," meddai'r Cynorthwy-ydd Ehangu Mynediad, Anna Macdonald, aelod o dîm Cyfathrebu a Marchnata'r Brifysgol. "Mae llawer o'r bobl ifanc yn awr wedi penderfynu yr hoffent fynd i’r brifysgol yn y dyfodol, sy'n rhywbeth nad oedd rhai ohonynt wedi ei ystyried o'r blaen."
Yn nol Carys Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata), dim ond un esiampl o weithgareddau ehangu mynediad y Brifysgol yw’r project clybiau ieuenctid.
“Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau adolygu TGAU, gweithdai gwyddonol, Ysgol Haf ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 a rhaglen codi dyheadau sy’n cynnwys dros 1,700 o ddisgyblion ysgol ar draws gogledd Cymru,” meddai Carys, gan ychwanegu “Mae hybu addysg uwch a’r cyfleoedd sy ar gael i bobl ifanc yn rhan hollbwysig o waith Prifysgol Bangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2014