Pontio a Chwmni Theatr Invertigo yn sefydlu perthynas tair mlynedd newydd a chyffrous
Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi Invertigo (‘cwmni ifanc cyffrous’ -The Stage) yn Gwmni Cysylltiol am y tair blynedd nesaf, ac mae’r ddau sefydliad yn edrych ymlaen at gynnig theatr ddynamig newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cam cyntaf y siwrne hon oedd cyfnod o ysgrifennu ac ymarfer My Body Welsh yn Stiwdio Pontio, gan orffen gyda digwyddiad ‘Gwaith ar y gweill’ yn Pontio. Gan archwilio sut mae syniadau o genedlaetholdeb yn cael eu creu drwy rannu straeon neu ffuglen gyfrannol, mae My Body Welsh yn cwestiynu mewn modd chwareus sut mae chwedlau’n cael eu creu yn lleol, gyda Cymru a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymraeg yn ganolbwynt. Mae’r cyd-gynhyrchiad yma rhwng Invertigo a The Conker Group hefyd yn archwilio defnydd arloesol o sain, gan ddefnyddio deunydd clywedol wedi ei recordio’n fyw a’i chwarae yn ôl, gan feithrin synnwyr o gymuned adrodd stori yn eistedd o gwmpas y tân. Bwriad Invertigo yw teithio sioe un-dyn yma yn ystod Gwanwyn 2017.
Bu i bedwar cyd-sefydlwyr Invertigo gwrdd tra’n astudio yn y Guildhall School of Music and Drama, ac mae Steffan Donnelly a Siôn Alun Davies o’r cwmni yn dod o Gymru, Steffan o Lanfairpwll a Siôn o Gaerdydd. Mae Invertigo wedi cael llwyddiant a gwobrau am eu gwaith hyd yma, gan gynnwys tair enwebiad ar gyfer Y Tŵr yng Ngwobrau Theatr Cymru.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd Invertigo yn Gwmni Cysylltiol i ni am y tair blynedd nesaf. Mae ffurfioli ein perthynas yn ein galluogi i gynllunio syniadau a phrojectau’n fwy strategol, dros gyfnod hirach o amser. Mae’n gyffrous iawn gweithio gyda chwmni mor arloesol sydd a’u gwreiddiau yng Nghymru.”
Ychwanegodd Steffan Donnelly, cyd-gyfarwyddwr artistig Invertigo, “Nod Invertigo yw gwthio ffiniau sut y mae theatr yn medru edrych a theimlo gan arbrofi gyda ffurf a chynnwys. Mae cael y rhyddid i ddatblygu hyn gydag adnoddau a chefnogaeth canolfan newydd anhygoel fel Pontio yn wefr. Fel plentyn breuddwydiais am wneud theatr yn ac ar gyfer fy ardal enedigol, felly mae dod yn gwmni cysylltiol yn Pontio yn foment fawr i mi. Rydy yn edrych ymlaen yn arw at greu gwaith gyda Pontio sy’n cyffroi, yn adfywio ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd lleol.”
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a chyfrannwyr i Brifysgol Bangor.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2016