Pontio’n chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol
Mae Prifysgol Bangor ar hyn o bryd yn chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol ar gyfer Pontio - Canolfan y Celfyddydau ac Arloesi, sy’n costio £37 miliwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn siaradwr Cymraeg, yn gyfrifol am gynllunio rhaglenni a goruchwylio’r celfyddydau perfformio a gynhelir yn y Ganolfan newydd.
Bwriad Canolfan Pontio yw tynnu’r celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a diwydiannau creadigol at ei gilydd mewn ffyrdd newydd a chyffrous, felly bydd swydd y Cyfarwyddwr Creadigol yn un o swyddi allweddol y project.
“Dyma’r gyntaf o swyddi newydd uchelgeisiol, a fydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno rhaglen o gelfyddydau perfformio o’r safon uchaf un, fel rhan o genhadaeth PONTIO i ddod yn un o brif ganolfannau diwylliant yng Nghymru,” meddai’r Athro Fergus Lowe, Arweinydd Project Pontio.
Swyddogaeth bwysig i’r Cyfarwyddwr Creadigol fydd datblygu gweithgareddau Cymraeg, yn cynnwys comisiynu a chynhyrchu gwaith newydd yn yr iaith Gymraeg, fel y gall Pontio ysgogi arloesi a thwf mewn celfyddydau Cymreig. Bydd y Ganolfan yn gyrchfan allweddol ar gyfer digwyddiadau i’r gymuned leol ac i eraill lawer ymhellach i ffwrdd.
“Yn ogystal â chroesawu rhai o artistiaid a chwmnïau enwocaf y genedl yn rheolaidd, gall amcan arloesol Pontio i gymysgu celfyddydau, gwyddorau a thechnoleg weld cyfarwyddwyr theatr, cynllunwyr a gwyddonwyr yn cydweithio ar berfformiadau a digwyddiadau a fydd yn torri tir cwbl newydd. Mae hwn yn faes dieithr, yn llawn cyffro a chyfle, ac yn gwbl unigryw i Fangor" meddai'r Athro Lowe.
DIWEDD
8.3.11
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2011