Pontio'n croesawu ‘Anton Chekhov’ i Gymru
Ymweliad deithiol sioe un dyn Michael Pennington â Bangor
Bydd actor profiadol yn y ‘West End’, Michael Pennington, yn dod â’i sioe un dyn, ‘Anton Chekhov’, i Fangor mis yma (19 Tachwedd).
Yn actor Shakespearaidd byd-enwog, mae Pennington wedi profi ei allu amrywddawn fel actor gyda gyrfa nodedig ar y llwyfan ac mewn ffilmiau – fel awdur a chyfarwyddwr. Bydd cefnogwyr Star Wars hefyd yn ei adnabod fel un o brif swyddogion y Death Star yn y ffilm ‘Star Wars Episode VI: Return of the Jedi’.
Mae Pennington wedi perfformio Anton Chekhov mewn lleoliadau ers ei arddangosiad cyntaf yn y National Theatre yn 1984, ond dyma’r tro cyntaf i’r sioe ymweld â Chymru. Bydd y sioe un dyn ar ffurf noson a dreulir yng nghwmni’r awdur o Rwsia tuag at ddiwedd ei oes ar droad yr ugeinfed ganrif. Bydd yn hel atgofion am ei fywyd, ei gyfnod a’i waith; mae’n arddangos ei dechneg ysgrifennu drwy ddweud straeon, ac yn siarad am y theatr ac ymwna’n ddwfn ac yn hwyliog â’i gynulleidfa.
Gan egluro’r ysbrydoliaeth am y sioe, meddai Michael Pennington: “Mi gychwynnais i’r sioe fy hun ac mi gefais i’r syniad yn gyntaf pan oeddwn i’n teithio ar y ‘Trans Siberian Express’ yn ôl yn 1975. “Mi ddechreuais i feddwl – sut beth fyddai bod wedi cwrdd â Chekhov? Sut fath o hwyliau fyddai arno, a beth fyddai o’n fodlon siarad amdano pe baech chi’n ddigon ffodus i gael ei gwmni am noson a’i roi ar lwyfan gartrefol? “Mae Chekhov wedi dweud neu ysgrifennu popeth yn y sioe, yn rhywle. Yr hyn yr ydw i wedi’i greu yw’r cyd-destun, ac rydw i wedi defnyddio darnau o’r dramâu, ac yn arbennig y straeon, dim ond pan maent yn ymddangos i fod â thinc hunangofiannol amlwg – ac mae hyn i’w weld yn amlach nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Roedd Chekhov yn ŵr hynod.”
Dywedodd Dyfan Roberts, cydlynydd celfyddydol Pontio: “Mae’r ffaith bod Pontio wedi llwyddo i ddenu un o sêr y ‘West End’ i Fangor yn gryn orchest, gan mai dyma’r unig le yng Nghymru gyfan y bydd Michael Pennington yn perfformio’r sioe. “Archebwch yn awr i wneud yn siwr y cewch chi sedd yn y sioe un dyn yma a chael golwg unigryw ar fyd difyr Chekhov.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011