Pontio yn agor drysau i bobl ifanc leol trwy grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae project arloesol sy'n rhoi rhywbeth i bobl ifanc leol yn eu harddegau ei wneud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol ym Mhontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi Bangor, wedi derbyn tair blynedd o gyllid gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o'i Chronfa Gymunedol.
Gan weithio mewn ffordd ddeinamig sy’n ymateb i anghenion, mae'r project, o'r enw 'Yn y Foment' yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dod i mewn i adeilad Pontio gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o'u dewis, gan gynnwys cerddoriaeth ac ysgrifennu, dawns, sgiliau syrcas a chyfleoedd i weithio gyda'r nifer fawr o berfformwyr proffesiynol ac ymarferwyr lleol sy'n ymweld â Pontio.
Y syniad y tu ôl i'r project yw agor drysau i brofiadau pleserus newydd ac yn anad dim, gael gwared ar reolau a strwythur arferol dosbarthiadau mwy ffurfiol neu weithdai wedi'u trefnu, a gadael i bobl ifanc wneud pethau yn eu ffordd eu hunain, a dod ar draws profiadau newydd.
Mae'r project wedi derbyn cyllid yn dilyn peilot llwyddiannus dros y 18 mis diwethaf, a welodd dros 230 yn cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau creadigol.
Dywedodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio,
“Rydyn ni'n dal i fod yn ganolfan eithaf newydd, ar ôl bod ar agor am bedair blynedd yn unig. Ond dros yr amser hwnnw, rydyn ni wedi bod yn dod i adnabod sut mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio gan ein cymuned.
“Un peth rydyn ni wedi sylwi arno yw bod pobl ifanc o’r ardal leol yn defnyddio Pontio fel rhywle i gymdeithasu ar ôl ysgol, yn ystod gwyliau ysgol ac ar y penwythnos. Efallai nad ydyn nhw yma bob amser i weld ffilm, sioe neu i ddod i'n rhaglen ieuenctid BLAS, ond oherwydd eu bod nhw'n hoffi'r lle, ac o bosib dydyn nhw ddim yn teimlo fod ganddynt unman arall i fynd.
“Mae'n naturiol y gall diflastod arwain at ymddygiad heriol mewn rhai achosion, felly roeddem yn meddwl y byddem yn gweld yr hyn y gallem ei wneud ynglŷn â hynny - rydym yn ganolfan greadigol, wedi'r cyfan, felly dylem allu cynnig atebion creadigol! Felly dechreuon ni wahodd y rhai oedd yn cymdeithasu ym Mhontio i roi cynnig ar wahanol bethau - nid mewn amgylchedd ffurfiol, tebyg i 'ystafell ddosbarth', na thrwy weithgareddau wedi'u hysbysebu, ond trwy ddarparu lleoedd lle roeddent yn gallu bod yn nhw eu hunain, dod i adnabod y ganolfan a'i staff ychydig yn well, a gwneud pethau yn eu ffordd eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.
“Mae derbyn y darn hwn o arian o Gronfa Gymunedol y Loteri yn golygu y gallwn nawr gynnig y cyfleoedd hyn yn fwy rheolaidd.”
Bydd Pontio nawr yn penodi cydlynydd ar gyfer y project, ac yn gweithio gyda nifer o bartneriaid cymunedol i roi gwybod i bobl ifanc yn eu harddegau am wasanaethau eraill y gallai fod ganddyn nhw ddiddordeb ynddynt, gan gynnwys lle maen nhw'n gallu cofrestru am ddosbarthiadau neu gyrsiau mwy ffurfiol pe baent yn dod i ymddiddori mewn ffurf gelf benodol, neu am gefnogaeth ychwanegol gyda materion penodol os oes angen. Bydd adran Seicoleg Prifysgol Bangor hefyd yn cymryd rhan trwy weithio gyda'r bobl ifanc i ddarganfod beth yw eu barn am y math hwn o weithgaredd.
Ychwanegodd Osian Gwynn, “Rydym yn falch iawn o gymryd y cam nesaf hwn gydag Yn y Foment, a law yn llaw â'n partneriaid cymunedol a phobl ifanc leol, edrychwn ymlaen at weld beth sy'n bosibl.”
Cafodd prosiect peilot gwreiddiol ‘Yn y Foment’ ei ariannu drwy gronfeydd y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar gyfer atgyfnerthu linciau prifysgolion Cymru gyda’u cymunedau, gan gynnwys arloesedd cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019