Pontio yn galw ar artistiaid a gwyddonwyr i gydweithio
Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor, sy’n agor ei drysau’n swyddogol heddiw (1af Rhagfyr 2015) yn galw ar berfformwyr a gwyddonwyr i gyflwyno syniadau cyffrous fel rhan o gynllun SYNTHESIS.
Wedi ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni, mae SYNTHESIS yn cynnig gwobr o £2,000 i gomisiynu dau gwahanol bâr o wyddonwyr ac unigolion sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio i ddatblygu syniad gya’i gilydd sy’n pontio’r celfyddydau a gwyddoniaeth. Y dyddiad cau yw 29 Ionawr.
Mae Pontio’n awyddus i dderbyn ceisiadau sy’n ystyried ymatebion a ysbrydolwyd gan adeilad Pontio, er enghraifft y Caban (darn o gelf gyhoeddus gyfoes a osodwyd yn y tirwedd), sy’n estyn allan i deuluoedd a phlant dan 12 oed , sydd wedi eu hanelu at pobl hŷn neu pobl sy’n byw gyda dementia, sy’n cyfuno’r bydoedd rhithiol (e.e. digidol) a real, sy’n gwneud defnydd o syrcas gyfoes ac yn manteisio ar gyfleusterau a nodweddion Pontio neu sy’n cydnabod yr iaith Gymraeg a’n cymuned ddwyieithog.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Fawrth 20fed 2016 fel rhan o Wyl Wyddoniaeth Bangor. Cynhelir digwyddiad rhannu ar ddiwedd y prosiect yn Stiwdio Pontio ar 3 Gorffennaf 2016.
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio, “Be all digwydd yn y gofod rhwng moliciwlau a marimba, rhwng aria ac arian byw? Mae gennym ddiddordeb gwybod mwy, ac mae’r cynllun peilot yma yn arbrawf yn ei hun i berfformwyr a gwyddonwyr ffurfio partneriaethau, i anturio tu hwnt i’w meysydd arferol ac i weld pa syniadau arloesi a chyffrous all ddatblygu.”
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â Shari llewelyn s.llewelyn@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 38 28 28. Y dyddiad cau yw 29 Ionawr 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015