Porth byd-eang ar gyfer ymchwil Cymru yn dechrau gweithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi
Mae porth gwe sy’n dod ag ymchwil o Gymru a busnes byd-eang at ei gilydd yn dechrau gweithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth 2014).
Mae ED Cymru ( www.walesip.com ) yn gweithredu fel porthol ar gyfer buddsoddwyr posibl, trwy eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd arloesol a ddatblygwyd gan bum prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil.
Y safle yw wyneb cyhoeddus y Prosiect Cydweithio ar Eiddo Deallusol (IPCoP) rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.
Dywedodd yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae’r wefan Eiddo Deallusol yn arddangos y cyfleoedd arbennig sy'n bodoli i ddatblygu’n fasnachol ymchwil sy’n cael ei gwneud yng Nghymru. Trwy alluogi buddsoddwyr i fynd yn rhwydd at Eiddo Deallusol y prifysgolion sy’n rhan o’r bartneriaeth, ein nod yw cryfhau cyfraniad economaidd Cymru a gwledydd eraill Prydain, gan ddangos pwysigrwydd a dylanwad ymchwil a pha mor berthnasol ydyw i anghenion busnesau.”
Dywedodd Yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd: "Mae’r porthol yn mynd ag arloesedd o’r fainc waith i’r ystafell bwrdd, gan gyflwyno cyfleoedd i fuddsoddwyr, a galluogi ymchwilwyr yng Nghymru i rannu arfer gorau, mireinio syniadau, a datblygu cyfleoedd busnes o’r radd flaenaf."
Ariennir y cydweithio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Gan ddefnyddio ymchwil flaenllaw ac arbenigedd eang y sefydliadau hyn, nod IPCoP yw gyrru’r economi wybodaeth yng Nghymru ymlaen. Roedd honno’n werth £177 miliwn yn 2011-12.
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: “Mae prifysgolion yn cyfrannu miliynau at economi Cymru trwy ganiatáu trwyddedau, ffeilio patentau a chreu cwmnïau deillio, yn ogystal â darparu gwasanaethau a gwybodaeth arbenigol i fentrau sy’n bodoli eisoes. Mae’n bleser gennym allu cefnogi’r cydweithio hwn, a fydd yn galluogi cwmnïau i gael hyd yn hawdd i arbenigedd yn y pum prifysgol dan sylw. Rydym ni’n gobeithio y bydd y porth newydd hwn yn sbarduno twf mewn masnacheiddio eiddo deallusol, a fydd o les i’r economi ac yn gwella enw da ein prifysgolion ymhellach fel canolfannau arbenigedd sylweddol.”
Mae ED Cymru yn gyrchfan un stop i fuddsoddwyr neu gwmnïau sy’n chwilio am geisiadau masnachol, gan weithredu fel porth at 95% o ymchwil yr ardal. Mae’n helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i eiddo deallusol a gweld pa feysydd y mae cydweithio ynddynt.
Mae IPCoP yn tynnu at ei gilydd rwydwaith o Swyddogion Trosglwyddo Technoleg sy’n gallu nodi, diogelu a masnacheiddio ymchwil Cymru, i gefnogi economi Cymru ac adeiladu ‘diwylliant arloesi’.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, nododd IPCoP dechnolegau newydd lluosog sydd â photensial cryf, a sicrhawyd dros £1.1 miliwn o incwm trosiadol. Mae gan y bartneriaeth gryfderau mewn diogelwch bwyd, ynni a’r amgylchedd, iechyd a biowyddorau, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, yr economi ddigidol a diwydiannau creadigol.
Bydd y pum prifysgol a’u cwmnïau partneriaeth yn elwa ar ED Cymru. Mae hefyd yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru i ysgogi twf economaidd trwy fasnacheiddio ymchwil a datblygu.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014