Porth Coffa Arwyr Gogledd Cymru
Yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Bangor a’r Lleng Brydeinig Frenhinol mae’r Brifysgol wedi gallu agor y Porth Coffa ar Ffordd Deiniol i’r cyhoedd bob dydd Sadwrn dros yr haf.
Mae’r trefniant newydd wedi dod i rym yn dilyn cynnig hael gan y Lleng Brydeinig Frenhinol i ddarparu gwirfoddolwyr i oruchwylio’r adeilad, fel y gall y cyhoedd ymweld â’r Porth Coffa unrhyw ddydd Sadwrn rhwng 10.00-4.00 o rŵan tan fis Medi.
Ar waliau mewnol llawr cyntaf y Porth Coffa, mae enwau dros 8,500 o filwyr, morwyr a gŵyr yr awyrlu o siroedd gogledd Cymru a aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi’u cofnodi ar baneli derw, yn ôl trefn plwyfi gogledd Cymru. Codwyd y Porth Coffa trwy roddion ac fe’i cwblhawyd yn 1923.
“Mae’r Porth Coffa’n deyrnged deimladwy i’r rhai hynny o bob rhan o ogledd Cymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel yr ydym yn nesáu at ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel, rydym yn falch o gydweithio efo’r Brifysgol i alluogi pobol ledled y rhanbarth i ddod i weld yr adeilad coffa drostynt eu hunain,” meddai’r Cyng. Bryn Hughes. Ysgrifennydd Cangen Bangor a’r Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol a Dirprwy Faer Dinas Bangor.
“ Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’n iawn bod pobol leol yn medru mynd i mewn i’r Porth Coffa ac mae’r bartneriaeth hon yn esiampl wych o’r perthynas yr hoffai’r Brifysgol ei chael gyda chymunedau a grwpiau diddordeb arbennig o fewn y rhanbarth ehangach,” meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is Ganghellor â chyfrifoldeb dros Weithgarwch Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned.
DIWEDD
Yn ddiweddar fe gwblhawyd gwaith cynnal a chadw ar y Porth Coffa yn dilyn apêl lwyddiannus i godi arian. Roedd rhoddion gan unigolion a chyrff yn gyfraniad pwysig tuag at gynnal yr adeilad Rhestredig Graddfa II. Costiodd y gwaith atgyweirio £200,000 a chyfrannwyd £114,000 o’r swm gan y brifysgol. Ymysg rhoddwyr mawr roedd Cadw, yr Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel, Bysiau Arriva Buses.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2011