Premiere Cymru o gampwaith corfforol, arloesol a ffraeth Barely Methodical Troupe
Yn dilyn gwerthu pob tocyn mewn perfformiadau yng ngŵyl Fringe Caeredin yn 2014 ac yn yr International Mime Festival a'r Udderbelly Festival yn y Southbank Centre yn Llundain yn 2015, mae dynion y Barely Methodical Troupe yn dod â'u sioe arobryn Bromance i Pontio, Bangor ar 1 a 2 Chwefror, a hwn fydd eu perfformiad cyntaf yng Nghymru.
Y triawd hwn, sef Louis Gift, Beren D'Amico a Charlie Wheeller, yw sêr newydd y gylchdaith ym Mhrydain. Maen nhw'n rhan o don newydd o sioeau syrcas modern sy'n cyfuno campau corfforol, arddulliau dawns a themâu a theatredd cyfoes.
‘Jaw-dropping magnificent' oedd disgrifiad The Stage o’r sioe hon a oedd yn un o'r ffefrynnau clir yng ngŵyl Fringe Caeredin yn 2014, pan enillodd y 'Total Theatre and Jackson's Lane Award for Best Circus'. Mae'r sioe wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig ac wedi cael bonllefau o gymeradwyaeth ac adborth arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol. Bu'r sioe ar daith ledled y byd y llynedd, gan gynnwys perfformiadau yn Awstralia a Brasil.
Bromance yw sioe gyntaf y cwmni ac mae'n hynod adloniadol. Sioe ydyw am ymddiriedaeth, agosatrwydd a chyfeillgarwch rhwng dynion a'i gilydd trwy gyfrwng gorchestion nerth sy'n dod â dagrau i'r llygaid, sgiliau syrcas rhyfeddol, cydbwyso ar y dwylo, acrobateg a pherfformiadau ar olwyn Cyr, sef olwyn ddur fawr sy’n troelli.
Fel mae Beren D’Amico yn ei ddweud, ‘We had the opportunity to create a show. So, we thought, “What do we have together?” We don’t want to do a show about politics or come across as pretentious. So, we made a show about male friendship, because that’s what we experience every day.’
Cyfarfu'r Barely Methodical Troupe yn y National Centre for Circus Arts a sylweddoli bod eu cymysgedd amrywiol o sgiliau'n cynnig rhywbeth unigryw. Dechreuodd Louis Gift ar ei yrfa ym maes parkour, Beren D'Amico ym maes triciau celfyddyd ymladd a Charlie Wheeller fel breg-ddawnsiwr. Wrth raddio, enillon nhw’r gystadleuaeth Circus Maximus gyntaf a'r Deutsche Bank Award gan eu galluogi i greu Bromance ac ers hynny maent wedi ennill llu o wobrau gan gynnwys y Best Circus Weekly Award yng ngŵyl Fringe Adelaide yn 2015.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert: ‘Mae Bromance yn deitl annisgwyl ar sioe syrcas efallai ond wedyn – mae 'na do ifanc deinamig o berfformwyr syrcas sydd â straeon newydd, cyfoes i’w dweud – a Bromance yn un ohonyn nhw - ac yn ffodus i ni, Bangor a Chymru – mae’n bremier Cymru hefyd!’
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017