Premiere drama ar gyfer radio i Fyfyrwyr Bangor
Ar nos Sul 30 Hydref bydd Gorsaf Radio Myfyrwyr Bangor, Storm FM, yn darlledu perfformiad cyntaf o’r ddrama radio Pontypool. Addaswyd y ddrama gan aelodau o Gymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) o’r nofel Pontypool Changes Everything gan Tony Burgess, nofel arswyd wedi’i lleoli yn Ontario, Canada y gwnaed ffilm ohoni’n ddiweddar.
Mae’r ddrama’n cymryd golwg feddylgar ar iaith a sut y byddwn yn ei defnyddio, gyda phwyslais arbennig ar amlieithrwydd. Mae’n stori am firws hynod o heintus sy’n lledaenu drwy dref Pont-y-pŵl, ac yn effeithio ar y rheiny sy’n ei ddal mewn ffordd ysgytwol. Mae’r goroeswyr, criw gorsaf radio lleol, yn sylweddoli’n fuan fod rhywbeth yn cysylltu lledaeniad y firws â’r iaith y maent yn ei siarad, gyda phobl ddwyieithog yn ennill y blaen yn y sefyllfa dywyll, llawn tyndra sy’n codi.
Penderfynodd y myfyrwyr roi dimensiwn Cymreig i’r stori am eu bod yn byw ym Mangor ac wedi profi sut beth yw byw mewn cymuned ddwyieithog. Maent yn gobeithio y bydd y ddrama’n helpu myfyrwyr newydd o du hwnt i Glawdd Offa ymgynefino â byw mewn ardal Gymraeg ac yn eu helpu i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
"Mae’n gyfle gwych i allu trosglwyddo’r lleoliad i Gymru,” dywedodd Daniel Short, Is-Lywydd BEDS ac aelod o gast y ddrama. "Mae’n gyfle i edrych ar frwydr yr iaith Gymraeg o’r tu allan o bersbectif unigryw; gobeithio bydd pawb sy’n gwrando arno yn gallu gwerthfawrogi dwy ochr y ddadl ynghylch dwyieithrwydd.”
Ychwanegodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad â’r Gymuned): “Mae hon yn fenter ragorol ar ran myfyrwyr Prifysgol Bangor ac yn ddatblygiad rydym yn ei groesawu yng ngweithgareddau’r Gymdeithas Drama Saesneg. Nid yn unig mae’n arwydd o’u parodrwydd i fynd i’r afael â phwnc dwyieithrwydd, ond mae hefyd yn gyfle gwych iddynt ddarlledu eu cynhyrchiad. Rwy’n edrych ymlaen at fentrau tebyg yn y dyfodol.”
Caiff Pontypool ei ddarlledu am 9pm ar nos Sul 30 Hydref ar Storm FM, sydd ar 87.7FM ac ar y we ar http://www.stormfm.com/ a dyma’r cyntaf o amryw o brosiectau radio gan BEDS eleni.
Mae Storm FM yn darlledu 24 awr y diwrnod saith diwrnod yr wythnos, yn bennaf i’r safle llety FforddFfriddoedd. Mae’n darlledu yn Gymraeg a saesneg gan adlewyrchu natur ddwyieithog cymuned myfyrwyr y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2011