Prif drefnydd y Gemau Olympaidd yn ymweld â Bangor
Bydd un o redwyr pellter canol gorau Prydain, a'r un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, yn ymweld â Phrifysgol Bangor ym mis Tachwedd mewn digwyddiad arbennig i drafod ei fywyd a'i yrfa. Enillodd Seb Coe, yr Arglwydd Coe erbyn hyn, bedair medal Olympaidd yn ystod ei yrfa ddisglair ym maes athletau, yn cynnwys dwy fedal aur am y 1500 metr yng Ngemau Olympaidd Moscow yn 1980 a Los Angeles yn 1984. Yn 1981, gosododd record y byd am y ras 800 metr, y ras 1000 metr a'r filltir.
Ar ôl ymddeol o chwaraeon, trodd Seb Coe am ychydig at wleidyddiaeth: bu'n Aelod Seneddol rhwng 1992 a 1997, ac fe'i gwnaed yn Arglwydd am Oes yn 2000. Ef a arweiniodd y cais llwyddiannus i gynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, ac roedd yn gadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd. Enillodd ganmoliaeth eang am ei waith yn y swydd honno, a chafodd y Wobr Cyflawniad Oes yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn 2012. Cafodd hefyd ei wneud yn Gydymaith Anrhydeddus.
Cynhelir 'Noson yng nghwmni Seb Coe' yn Neuadd Prichard-Jones ym mhrif adeilad y Brifysgol am 7.00pm, ddydd Llun, 25 Tachwedd. Bydd yr Arglwydd Coe mewn sgwrs â Chadeirydd Cyngor y Brifysgol a chyd arglwydd, yr Arglwydd Davies o Abersoch. Bydd mynediad i’r digwyddiad trwy docyn yn unig, ni chodir tâl ond i gael tocyn cysylltwch â Lynne Hughes (l.hughes@bangor.ac.uk). Ceir mynediad i'r neuadd ar sail y cyntaf i’r felin, gyda'r drysau'n agor am 6.20pm.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2013