Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank yn trafod “Research for Business and the Business of Research”
Mae George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, i’w weld, fel rheol, yn rhoi cyfweliadau ar y radio, y teledu a’r wasg genedlaethol.
Ac yntau ei hun wedi graddio ym Mangor, bydd George yn rhannu ei brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd mewn ddarlith Gyhoeddus am 6.00 nos Lun 30 Ebrill yn Ystafell Stephenson, Adeilad y George, Ffordd Caergybi, Prifysgol Bangor.
“Mae hyn yn gyfle gwych i glywed am astudiaeth, ymchwil a’r hyn mae’n ei olygu mewn cyd-destun busnes. Rydym wrth ein boddau i gael gyflwyno’r siaradwr proffil- uchel yma drwy gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor,” meddai Chris Hillier, Rheolwr Datblygu Busnes yn swyddfa, Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Bangor.
I gofrestru ar gyfer y ddarlith, e-bostiwch Chris Hillier c.hillier@bangor.ac.uk
Daw’r ddarlith gyhoeddus hon i chi drwy Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012