Prif Economegydd Prydain yn ymweld â’r Ysgol Busnes
Daeth cyn fyfyriwr Ysgol Busnes Bangor, sydd bellach yn gweithio fel Prif Economegydd y DU i Deutsche Bank yn Llundain, un o brif ddarparwyr gwasanaethau ariannol y byd, draw i’r Ysgol Busnes yn ddiweddar i roi sgwrs i’n myfyrwyr. Roedd ei ddarlith “UK Economics: A bumpy ride”, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr i wybod mwy am waith economegwyr sydd yn gweithio yn y ddinas a pha faterion economeg sydd yn cael sylw ar hyn o bryd.
Meddai Dr George Buckley, a raddiodd gyda BA mewn Economeg o Fangor yn 1993: “Allwn i ddim bod wedi dewis lle gwell i astudio ynddo na Ysgol Busnes Bangor, y bobl yn gyfeillgar a hefydd lleoliad eithriadol hardd y brifysgol. Fe wnaeth y cwrs roi sylfaen dda i mi mewn economeg a rhoi i mi’r sgiliau sylfaenol ar gyfer adeiladu fy ngyrfa. Roedd aelodau’r adran bob amser yn annog ac ysbrydoli rhywun i symud ymlaen ymhellach gydag economeg.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2011