Prifysgol Bangor
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, a oedd i fod i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ddiwedd mis Rhagfyr 2018.
Meddai Cadeirydd y Cyngor, Marian Wyn Jones: "O ystyried nifer yr heriau sy'n wynebu'r Brifysgol ar hyn o bryd, a’r ffaith fod nifer ohonynt yn effeithio ar strategaeth, cyfeiriad a llwyddiant hirdymor y Brifysgol, daethom i'r casgliad y byddai’n fanteisiol i’r materion hynny gael eu delio â hwy gan dîm fydd yn gallu ymdrin â’r newidiadau nid yn unig yn ystod y misoedd i ddod, ond yn hanfodol, hefyd i'r flwyddyn academaidd nesaf.”
O ganlyniad, mae'r Athro Hughes wedi cytuno i ymddeol ynghynt, a bydd yn gadael ar ddiwedd mis Rhagfyr.
Fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar, bydd y Brifysgol yn hysbysebu yn fuan am olynydd. Yn y cyfamser, bydd yr Athro Graham Upton yn cael ei benodi'n Is-Ganghellor Gweithredol o 1 Ionawr, ac yn camu o’r neilltu fel aelod o'r Cyngor.
Mae'r Athro Upton yn Is-Ganghellor profiadol iawn a arweiniodd Prifysgol Oxford Brookes am 10 mlynedd. Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Birmingham a Deon a Phennaeth Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn fwy diweddar, roedd yn Is-Ganghellor Dros Dro ym Mhrifysgol Birmingham City.
Ar ôl treulio ei blentyndod yn Awstralia, bu'n astudio am ei PhD yng Nghaerdydd ac mae ei arbenigedd academaidd ym maes Seicoleg Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2018