Prifysgol Bangor a Sboncen Cymru'n lansio partneriaeth arloesol newydd
Mae Prifysgol Bangor a Sboncen a Phêl Raced Cymru (Wales Squash & Racketball - WSRB) yn dathlu lansio partneriaeth arloesol newydd i helpu'r chwaraewyr sboncen ifanc gorau i gael llwyddiant ar y cwrt ac oddi arno.
Bydd y bartneriaeth, a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor, yn cynnig cyfle i'r chwaraewyr sboncen ifanc gorau i astudio yng Nghymru gan dderbyn pecyn cefnogi arbennig ar eu cyfer gan WSRB yr un pryd. Trwy gymysgedd o ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol Bangor a hyfforddiant unigol, bydd Prifysgol Bangor a'r WSRB yn gallu cynnig dewis realistig amgen i fyfyrwyr-athletwyr yn hytrach na gorfod mynd i astudio y tu allan i Gymru er mwyn cyflawni gofynion eu hyfforddiant sboncen.
Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd Andrew Evans, Swyddog Datblygu Rhanbarthol Gogledd Cymru'r WSRB a hyfforddwr cenedlaethol chwaraewyr iau, wedi ei leoli yng Nghanolfan Brailsford o fis Medi 2016, gan alluogi athletwyr i fanteisio ar hyfforddiant o'r ansawdd uchaf ac elwa ar ei brofiad o hyfforddi dros 40 o bencampwyr Cymreig.
Bydd Andrew'n gweithio hefyd gyda chlwb sboncen y Brifysgol i wella eu perfformiad yn y cystadlaethau chwaraeon i brifysgolion a cholegau ym Mhrydain (British Universities and Colleges Sport - BUCS).
Mae Prifysgol Bangor yn buddsoddi yn y cwrt sboncen cyntaf o safon broffesiynol yng Ngogledd Cymru, gyda "tin" y gellir ei addasu'n cael ei osod i helpu athletwyr baratoi ar gyfer bywyd yn y maes sboncen proffesiynol.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor, am y bartneriaeth:
"Mae hon yn adeg gyffrous i ni wrth i ni ddatblygu'r ystod o chwaraeon rydym yn gweithio'n agos â nhw. Yn dilyn buddsoddi sylweddol yn ein cyfleusterau chwaraeon, rydym yn gallu cyfuno cyfleusterau hyfforddi o ansawdd uchel gyda'n safonau uchel mewn addysgu a dysgu, sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol."
Meddai Mike Workman, Cyfarwyddwr Hyfforddi a Datblygu WSRB:
"Rydym wedi cael trafferth bob amser i gadw ein chwaraewyr ifanc gorau yng Nghymru, ond bydd y bartneriaeth yma'n cael effaith sylweddol ar ein gallu i hyfforddi a datblygu ein chwaraewyr iau gorau fel grŵp cydlynol. Bydd Prifysgol Bangor yn bartner allweddol o ran siapio dyfodol sboncen yng Nghymru. Bydd y buddsoddi mewn cyfleusterau ac ysgolheictod yn rhoi Bangor ar y map sboncen yn sicr."
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2016