Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor yn Addunedu i Gael Gwared â Homoffobia a Thrawsffobia Mewn Chwaraeon, ar y Cyd.
Gyda balchder, mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi datgan ymrwymiad i herio gwahaniaethu ac ymladd yn erbyn camdriniaeth homoffobig a thrawsffobig wrth arwyddo siarter a lansiwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth.
Llofnododd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden ym Mhrifysgol Bangor a Jo Caulfield, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Bangor Siarter y Llywodraeth dros Weithredu, gan ymrwymo i gydweithio, fel y bydd chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn gyfeillgar a chroesawgar i bawb.
Meddai Jo Caulfield, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Bangor:
“Buom yn cysylltu â’r Brifysgol, gyda’r syniad o arwyddo’r Siarter ar y cyd, am ein bod yn awyddus i anfon neges gref at ein holl fyfyrwyr a staff ynglŷn â’n hymrwymiad i sicrhau y gall pawb gymryd rhan mewn chwaraeon heb ofn na rhagfarn. Mae’n bleser gen i lofnodi hon heddiw, er mwyn datgan yn gyhoeddus fod cynnwys pawb yn ein cymuned yn flaenoriaeth i Undeb y Myfyrwyr a hefyd i’r Brifysgol.”
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon ac Adliniant ym Mhrifysgol Bangor:
“Rydym yn falch o gefnogi’r fenter hon i wneud chwaraeon yn amgylchedd mwy diogel a phleserus i bawb. Mae’n hanfodol ein bod yn anelu at wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb, ac at leihau unrhyw rwystrau y bo pobl yn eu hwynebu. Mae pobl yn ymwneud â chwaraeon mewn cymaint o ffyrdd, nid yn unig trwy gymryd rhan, ond hefyd trwy ddyfarnu, gweinyddu, hyfforddi a chefnogi, fel bod angen inni newid rhai ymarweddiadau tuag at chwaraeon a all fod yn hen-ffasiwn, ac adfyfyrio ar ein cymdeithas amrywiol fodern a chynyddu’r gobeithion o sicrhau cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon.”
Meddai’r Gweinidog dros y Swyddfa Gartref, Lynne Featherstone:
“Nid oes lle i ragfarn o unrhyw fath, yn unlle mewn chwaraeon. Mae’r Llywodraeth wedi creu Siarter dros Weithredu, sy’n rhwymo llofnodwyr i herio gwahaniaethu ac i weithio tuag at ddileu camdriniaeth homoffobig a thrawsffobig o chwaraeon, ar yr eisteddle ac ar y cae, fel y gall pawb gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau.
“Mae Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ymuno â dros 3,300 o sefydliadau ac unigolion eraill sydd wedi llofnodi’r siarter hyd yma, ac rwy’n diolch iddyn nhw am eu haddewid. Dylai pawb sy'n hoff o chwaraeon lofnodi'r siarter a helpu i gael gwared â homoffobia a thrawsffobia o chwaraeon am byth.”
Mae gan y Siarter nifer gynyddol o gefnogwyr, yn cynnwys Ben Cohen, Billie Jean King a Martina Navratilova, Stephen Fry a David Furnish, ynghyd â holl glybiau pêl droed yr Uwch-gynghrair a’r Gynghrair Bêl-droed, y Gymdeithas Bêl-droed, y Gymdeithas Tennis Lawnt, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, y Gynghrair Rygbi, yr Undeb Rygbi a Phwyllgor Llundain dros Drefnu’r Gêmau Olympaidd a Pharalympaidd. Dangoswch eich bod yn cefnogi’r ymgyrch trwy glicio ‘like’ ar y dudalen Facebook ‘I love sport, but hate homophobia and transphobia’ yn: facebook.com/lgbtsportcharter.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2012