Prifysgol Bangor ar 10 rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2017
>
Bydd staff a myfyrwyr yn canfod heno os ydynt am ennill un o'r deg Gwobr y maent ar y rhest fer ar eu cyfer yn noson Wobrwyo WhatUni Student Choice 2017. Mae'r enwebiadau wedi eu seilio ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol eu hunain.
Tra bo 44 o brifysgolion wedi cael enwebiad i gyd mewn un o'r 12 categori, enwebwyd Prifysgol Bangor am fwy o wobrau nag unrhyw brifysgol arall.
Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn dal y wobr am y llety prifysgol gorau ac fe'i henwebwyd yn y gwobrau eleni ar gyfer:
Prifysgol y Flwyddyn
Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Rhagolygon Swyddi
Clybiau a Chymdeithasau
Cyfleusterau Prifysgol
Llety
Cyrsiau a Darlithwyr
Rhyngwladol
Yn ogystal â dau gategori newydd:
Ôl-radd, a benderfynir yn yr un ffordd â'r categori Rhyngwladol, a
Rhoi'n Ôl, ar gyfer yr hyn y gofynnwyd i fyfyrwyr sgorio eu prifysgol ar faint maent yn ei roi'n ôl i'r gymuned, boed hynny'n fyd-eang neu'n lleol.
Mae Whatuni Student Rankings wedi eu seilio ar gyfartaleddau a gymerir o ddegau ar filoedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr ac a gyhoeddir ar Whatuni.com.
Croesawodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, y newyddion, gan ddweud:
"Mae cael ein henwebu am ddeg gwobr oherwydd cryfder ymatebion ein myfyrwyr yn gymeradwyaeth ysgubol gan ein myfyrwyr, ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn darparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy'n rhoi'r myfyriwr yn gyntaf." "Rwyf wrth fy modd fod ein myfyrwyr presennol yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor, a bod cymaint yn dewis chwarae rhan mor weithgar ym mywyd y Brifysgol."
Meddai'r Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): “Mae gennym berthynas waith agos gyda'n myfyrwyr, ac rydym ni bob amser yn cydweithio gyda nhw i wella eu profiad ym Mhrifysgol Bangor. Rydym ni hefyd yn falch iawn o'r gefnogaeth mae ein staff ar draws y Brifysgol yn ei rhoi i'n myfyrwyr. Maent yn gweithio'n ddiflino i wneud y profiad i fyfyrwyr ym Mangor mor arbennig.”
Yn ogystal â dod â gwobr adref y llynedd, daeth y Brifysgol yn ail yn y DU am Gyrsiau a Darlithoedd, yn drydydd yn y DU yn y categori Cefnogaeth i Fyfyrwyr, ac yn bedwerydd yn y categori cyffredinol Prifysgol y Flwyddyn.
Ychwanegodd Marcella Collins, Rheolwr Gyfarwyddwr (Prydain) Hotcourses Group, sef cwmni partner Whatuni.com: “Un o'r beirniadaethau mwyaf cyffredin yr ydym ni'n eu clywed gan fyfyrwyr yw ei bod yn rhy anodd canfod eu ffordd drwy gymhlethdodau Addysg Uwch, felly mae hyn wedi bod yn un o'r prif bethau i ni ganolbwyntio arno. Rydym ni'n cyflwyno data allweddol i fyfyrwyr mewn ffordd sy'n hawdd iddynt ddeall ac mae'n eu helpu i wneud dewisiadau addysgol sy'n newid eu bywydau.
I gefnogi hyn, mae'n bleser gennym gyflwyno dau gategori newydd i roi arweiniad pellach i ddarpar-fyfyrwyr ar ffactorau prifysgol y maent wedi dweud wrthym sy'n bwysig iddynt hwy.
Cyhoeddir Whatuni Student Rankings swyddogol 2017 heno (6 Ebrill) mewn seremoni sydd i’w chynnal yn Llundain. Gellwch ddilyn yr holl hynt a helynt ar y noson gyda'r hashtag #WUSCA.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017