Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd staff Prifysgol Bangor yn paratoi i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto eleni.
Mae gan Brifysgol Bangor bresenoldeb cryf ym mhob Eisteddfod Genedlaethol a’r brifysgol yw prif noddwr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, lle bydd amrywiaeth o weithgareddau’n denu plant ac oedolion ac yn ennyn eu chwilfrydedd. Bydd y Sioe Gemeg Flash Bang boblogaidd, a gyflwynir gan Dr Robyn Wheldon-Williams a'i dîm o Ysgol Cemeg y brifysgol, hefyd yno pob dydd i ryfeddu’r gwylwyr.
Un o’r uchafbwyntiau i unrhyw 'eisteddfodwr' brwd yw'r cyfle i gyfarfod â hen ffrindiau. Gwneir hyn yn haws i raddedigion Prifysgol Bangor a'r hen Goleg Normal, trwy gynnal aduniad blynyddol ar stondin Bangor ar y maes. Mae’r arfer wedi ei sefydlu bellach, ac mae graddedigion Bangor yn gwybod y cawn gyfle ym mhabell Prifysgol Bangor ar y prynhawn dydd Mercher i gael sgwrs gyda hen gydnabod! Bydd Is-ganghellor y brifysgol, yr Athro John G Hughes yn edrych ymlaen at gyfarch graddedigion a sôn wrthynt am rai o’r datblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn y brifysgol.
Meddai’r Athro Jerry Hunter Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
"Mae gan y brifysgol draddodiad hir o gyfrannu at ddiwylliant Cymru, ac mae hi’n cyfrannu at lwyddiant yr Eisteddfod. Ni yw'r darparwr addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o’r gymuned Gymraeg fywiog sydd yma. Ym Mangor, mae gennym berthynas hynod o gryf a chynhyrchiol gyda'n cymunedau, ac mae hynny’n cynnwys cyfrannu at uchafbwyntiau calendr y flwyddyn ddiwylliannol, sef yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd."
Bydd pabell y brifysgol yn fwrlwm o weithgarwch drwy gydol yr wythnos, gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu trefnu bob dydd. Un uchafbwynt fydd sesiwn ar y cyd gyda Pontio a Theatr Genedlaethol Cymru yn trafod Chwalfa. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen yw Chwalfa. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel - Pontio, sef Canolfan y celfyddydau ac arloesi newydd y brifysgol ym Mangor.
Bydd Yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg yn cyflwyno dwy ddarlith flynyddol fydd yn ymdrin â llenyddiaeth sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Athro Wiliams wedi cyhoeddi llawer am lenyddiaeth y rhyfel, a bydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Mawrth ac yn cyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru ddydd Mercher.
Ysgol Cerddoriaeth y brifysgol fydd yn arwain y digwyddiadau ym mhabell y brifysgol ar ddydd Iau. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys gweithdy llais gydag Ann Atkinson, o Ganolfan William Mathias, cyfle i holi enillwyr llwyddiannus Cân i Gymru, Gethin Griffiths ac Ifan Davies, cwis cerddorol am 3.00 a pherfformiad gan Casi Wyn a phedwarawd llinynnol am 5.00.
Bydd tîm o feirdd o blith myfyrwyr ac academyddion Prifysgol Bangor yn herio beirdd Prifysgol Aberystwyth mewn cystadleuaeth Talwrn y Beirdd, sydd yn datblygu’n ornest flynyddol rhwng y ddwy brifysgol. Eleni, tro Aberystwyth fydd cynnal y digwyddiad ar eu stondin ar y maes, a hynny am 12.00 ddydd Iau.
Bydd dydd Gwener yn ddiwrnod cerddorol arall, gyda’r grŵp gwerin o wlad y Basg, Bitartean, yn chwarae ar stondin y brifysgol yn y bore i gyfrannu at lansiad 'ap' newydd i ddysgwyr y Gymraeg. Datblygwyd yr ‘ap’ i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru. Bydd yr ap, sy’n addas i ddysgwyr ar lefel dechreuwyr a sylfaen, ar gael i ddysgwyr ym mis Medi 2014.
Bydd y gweithgareddau’n cyrraedd uchafbwynt brynhawn dydd Gwener gyda’r band poblogaidd, Sŵnami, a’r lleisydd Ifan Davies, sy’n fyfyriwr ym Mangor, yn chwarae'n fyw yn y babell am 2.30.
Ceir y Rhaglen yma
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2014