Prifysgol Bangor ar y rhestr fer am y Prosbectws Ôl-radd gorau ym Mhrydain
Rhoddwyd Prifysgol Bangor ar y rhestr fer am y Prosbectws Ôl-radd gorau ym Mhrydain yng ngwobrau Heist eleni am farchnata mewn addysg.
Mae'r newyddion yma'n dilyn llwyddiannau sylweddol eraill yn ymwneud â marchnata yn y Brifysgol, fel ennill y wobr gyntaf am ei Hadroddiad Blynyddol yn 2012 a'r ail wobr yn 2011 am ei phrosbectws i israddedigion mewn seremoni wobrwyo arall. Yn ogystal, rhoddwyd Bangor ar y rhestr fer ar gyfer Adran Farchnata'r Flwyddyn yn 2010.
Meddai Alan Parry, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Corfforaethol: “Mae hwn yn gyflawniad gwych, yn arbennig o ystyried y gystadleuaeth gref yn y sector. Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu peth o'r gwaith rhagorol a wneir gan bawb yn y tîm Cyfathrebu a Marchnata ar ran y Brifysgol.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2013