Prifysgol Bangor ar y rhestr fer yng Ngwobrau Ôl-radd Prospects 2014
Rhoddwyd Prifysgol Bangor ar y rhestr fer am Wobr Ôl-radd Prospects, yr unig anrhydeddau blynyddol yn benodol i ddathlu arfer gorau a'r datblygiadau mwyaf cyffrous mewn addysg ôl-radd yn y Deyrnas Unedig.
Bu i dros 100 o fusnesau, prifysgolion a myfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig gystadlu am y gwobrau. Bydd Prifysgol Bangor yn cystadlu yn erbyn tair prifysgol arall am deitl y Tîm Addysgu Gorau (Busnes a Gwyddorau Cymdeithas) mewn seremoni wobrwyo ddisglair ym Manceinion ddydd Llun, 10 Tachwedd 2014.
Mae'r tîm addysgu Dulliau Ymchwil Ôl-radd yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol wedi cael eu henwebu am y wobr.
Dywedodd Julie Davies, un o aelodau'r tîm a enwebwyd:
"Mae'n wych bod myfyriwr wedi gwerthfawrogi'r profiad dysgu y bu i ni ei ddarparu i enwebu'r Tîm Dulliau Ymchwil Ôl-radd am y wobr hon. Yn arbennig o ystyried bod y deunydd a ddysgir yn aml yn cael ei ystyried yn sialens yn dechnegol. Mae holl dîm addysgu'r Ysgol Seicoleg yn ymdrechu i gael rhagoriaeth yn ein dulliau addysgu - ac rydw i'n ymfalchïo n y ffaith ein bod ni'n cael cydnabyddiaeth o hyn ar lefel genedlaethol."
Dywedodd Shanti Shanker, un o'r rhai a enwebwyd:
"Roedd yn bendant yn syrpréis pleserus! Rydw i'n wastad wedi mwynhau cynorthwyo Dr Julie Davies ar gyfer sesiynau ymarferol y radd MSc mewn Ystadegau Uwch, ond ni wnes i erioed gymryd y byddem ni'n cael enwebiad am y cyfryw wobr addysgu. Mae wedi cyd-fynd gyda fy mhenodiad diweddar fel Darlithydd Cysylltiol, yn y Brifysgol Agored wedi fy lleoli yng Nghaergrawnt. Mae hyn yn bendant yn golygu llawer i'm hymdrechion proffesiynol fel academydd. Mae’n wych bod y myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r ymdrech ychwanegol y gall ei gymryd i egluro ystadegau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r myfyrwyr am eu cwestiynau sy'n fy nghadw ar flaenau fy nhraed!"
Meddai Mike Hill, prif weithredwr Prospects: “Rydym ni'n falch iawn o'r ymateb i'r gwobrau hyn, sydd ar eu hail flwyddyn yn unig, ond eisoes yn datblygu'n gyflym. Mae safon y ceisiadau'n dangos ymrwymiad a brwdfrydedd y timau sydd dan sylw. Rwy’n edrych ymlaen at seremoni wobrwyo ac yn dymuno lwc dda i bawb sydd ar y rhestr fer."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2014