Prifysgol Bangor Bahrain yn Dathlu Graddio
Llongyfarchiadau i'r 87 o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF).
Mae gan y brifysgol bartneriaeth hirsefydlog â’r BIBF, sy'n cynnig Diplomâu Addysg Uwch. Prifysgol Bangor sy'n gyfrifol am Sicrhau Ansawdd a Dilysu.
Mae rhaglen graddedigion Prifysgol Bangor yn BIBF yn un o'r rhaglenni israddedig mwyaf llwyddiannus yn Bahrain. Cyfuniad o raglen academaidd eithriadol a’r amgylchedd dysgu heb ei ail a geir yn BIBF sydd wedi arwain at lwyddiant y radd. Mae'r diwydiant bancio’n lleol yn ffafrio graddedigion y radd hon hefyd.
Yn y seremoni raddio flynyddol, cyflwynwyd Gwobrau'r Banciau i fyfyrwyr eithriadol gan gynrychiolwyr rhai o'r banciau mwyaf llewyrchus. Y banciau hynny oedd: Ahli United Bank, Al-Baraka Bank, Al Salam Bank, Arab Bank, BBK, a'r National Bank of Bahrain.
Cyflwynodd yr Athro Andrew Edwards, Deon y Coleg Busnes ym Mhrifysgol Bangor, y tystysgrifau ger bron Dr Ahmed Abdulhameed Al Shaikh, Cyfarwyddwr BIBF, cynrychiolwyr allweddol o'r sector ariannol, swyddogion o Brifysgol Bangor, yn ogystal â rhieni a theuluoedd y myfyrwyr a oedd yn graddio.
Yn ei araith dywedodd yr Athro Andrew Edwards ei fod yn ymfalchïo yn y berthynas gref a geir rhwng Prifysgol Bangor a'r BIBF gan nodi bod y berthynas honno wedi cryfhau dros y 15 mlynedd diwethaf.
Wrth ddathlu'r garreg filltir honno, aeth Dr Ahmed Al Shaikh, Cyfarwyddwr BIBF, rhagddo i longyfarch y graddedigion, gan eu cynghori i fod mor broffesiynol a phosibl wrth fentro i'r cyfnod nesaf yn eu bywydau ac i ddefnyddio'r sgiliau y maent wedi eu dysgu er mwyn llwyddo.
Delweddau:
Top: Yr Athro Andrew Edwards yn annerch y gynulleidfa
Gwaelod: O’r chwith: Faisal Janahi, Pennaeth Canolfan Bancio a Chyfrifeg BIBF; Dr Salman AlZayani, cyn-swyddog yn y llywodraeth; Abdulhakeem AlKhayyat, CEO Kuwait Finance House; Dr Ahmed Abdulghani, Cyfarwyddwr BIBF; Ahmed Naeemi, Pennaeth Trawsnewid Digidol, Gweithredoedd a Rheoli Projectau BIBF; Yr Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes a’r Athro Jon Williams, Pennaeth Ysgol Fusnes Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2019