Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac i gymryd rhan fel partneriaid mewn dau archwiliad arall.
Bydd deuddeg Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn mapio cryfderau ymchwil, arloesi ac isadeiledd lleol. Bydd Prifysgol Bangor yn arwain archwiliad i'r North West Nuclear Arc Consortium, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, North West England LEPs, Dalton Institute Prifysgol Manceinion, a'r National Nuclear Laboratory.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn rhan o'r North West Coastal Arc Eco-Innovation Partnership, a fydd yn canfod sut y gall yr ardal roi arweiniad byd-eang gyda datblygu nwyddau, prosesau a gwasanaethau carbon isel ac eco-arloesol.
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn bartner yn yr archwiliad i Grwsibl De Cymru, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, ac a fydd yn edrych ar arloesi gyda dur, cynhyrchu clyfar, arloesi mewn iechyd, ynni a thechnoleg amaethyddol.
Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor: "Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael ei dewis i arwain yr archwiliad yma a chymryd rhan mewn dau arall. Mae ein llwyddiant yn adlewyrchu'r arbenigedd sydd gennym mewn ymchwil ac arloesi ym maes yr amgylchedd a pheirianneg niwclear.
Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at arwain y cydweithio â chydweithwyr ar draws y wlad ar gynllun cyffrous a fydd yn berthnasol i strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig. ”
"Mae tystiolaeth glir o gyswllt rhwng gwario ar ymchwil a datblygu a chynhyrchiant cenedlaethol, a bydd yr archwiliadau hyn yn ein galluogi i edrych ar yr effaith y mae gweithgaredd o'r fath yn ei gael ar dwf economaidd presennol ac i'r dyfodol.
"Mae astudiaethau'n dangos bod buddsoddiad cyhoeddus yn y gwyddorau yn cynhyrchu elw o fan leiaf 20% y flwyddyn yn y sector preifat. Felly, mae'n glir bod prifysgolion yn gwneud cyfraniad o bwys i'r economi a chreu swyddi yn y DU."
Ymysg amcanion allweddol yr Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi oedd adnabod a dilysu meysydd o fantais gystadleuol fyd-eang bosibl ar draws y DU a chryfhau cynigion am fuddsoddi lleol yn y dyfodol. Byddant hefyd yn meithrin cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau lleol, awdurdodau lleol a phartneriaethau menter.
Bydd yr Archwiliadau hefyd yn helpu'r llywodraeth a sefydliadau lleol i edrych ar y ffordd mae buddsoddi mewn gwyddoniaeth ac arloesi yn arwain at gynhyrchiant lleol. Mae'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, gan dynnu sylw at feysydd lle rhoddir arweiniad byd-eang a chryfderau sy'n gystadleuol yn rhyngwladol.
Byddant hefyd yn edrych ar gryfderau diwydiannol lleol, yn arbennig yn y diwydiannau sy'n tyfu a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, ac asesu gallu lleol i gydweithio ar draws y maes gwyddoniaeth ac arloesi.
Wrth wneud y cyhoeddiad, fe wnaeth Jo Johnson, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth yn Llywodraeth y DU, nodi bod y broses archwilio eisoes wedi tynnu busnesau, prifysgolion, partneriaeth menter lleol, a'r weinyddiaeth ddatganoledig at ei gilydd i adnabod cyfleoedd ar gyfer buddsoddi o'r tu allan a thwf rhanbarthol, ac edrych ar gryfderau mewn nifer o sectorau a disgyblaethau ar draws y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017