Prifysgol Bangor i droi’n goch i gefnogi Tîm Cymru
Ar Fawrth 23, bydd Prif Adeilad Prifysgol Bangor yn troi’n goch i ddangos cefnogaeth i athletwyr Cymru sy’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia fis nesaf.
Bydd chwe athletwr o Brifysgol Bangor yn cynrychioli Cymru:
CODI PWYSAU
Seth Casidsid – sy’n gweithio yng Nghanolfan Brailsford ac a raddiodd mewn Seicoleg o’r Brifysgol.
Gareth Evans - Cymhorthydd Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford, sydd hefyd wedi cynrychioli’r DU yng Ngemau’r Olympaidd yn Llundain.
Catrin Jones – myfyrwraig Seicoleg
Harry Misangyi – myfyriwr Gwyddor Chwaraeon
Hannah Powell - sy’n gweithio i Codi Pwysau Cymru sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan Brailsford ac a raddiodd mewn Gwyddor Chwaraeon o’r Brifysgol.
SBONCEN
Tesni Evans - mae’n hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor ac yn Bencampwraig Genedlaethol Prydain, #12 yn y byd ac yn chwarae yn broffesiynol o gwmpas y byd gan wisgo crys Prifysgol Bangor.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon Prifysgol Bangor: "Rydym yn falch iawn i fod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Cymry Coch’ i gefnogi’r chwech o Fangor sy'n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad."
Mae pawb yn cael eu hannog i wisgo coch ar y diwrnod ei hun a rhannu’r dathliadau gan ddefnyddio’r hashnod #CymryCoch a #WeAreRed ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Non Stanford, a fydd yn gapten ar Dîm Cymru yn ystod yr 11 diwrnod o chwaraeon ar yr Arfordir Aur: “Mae cefnogaeth Cymru’n amhrisiadwy i ni pan rydyn ni dramor yn cystadlu a bydden ni wrth ein bodd pe baech chi, ar Fawrth 23ain, yn gallu dangos eich cefnogaeth i ni. Gobeithio ein bod ni, fel tîm, yn eich ysbrydoli chi i roi cynnig ar gamp newydd a bod yn egnïol. Beth am i ni wneud hyn gyda’n gilydd?!”
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gefnogwyr chwaraeon gwych ac mae’r diwrnod Cymry Coch yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a chefnogi athletwyr Cymru sy’n dod o bob cwr o’r wlad. Dyma gyfle i ni i gyd ddangos i Dîm Cymru y byddwn ni’n eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw wisgo eu crys coch a rhoi o’u gorau yn y Gemau. Rydyn ni eisiau eich gweld chi i gyd yn cymryd rhan, drwy ymuno a gwisgo eich coch gorau ar Fawrth 23ain. Gadewch i ni ddangos beth mae chwaraeon yn ei olygu i ni ac uno’r genedl chwaraeon yma sy’n caru’r campau - y Cymry Coch!”
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://bit.ly/2IKBKxp
Straeon perthnasol:
Presenoldeb cryf gan Brifysgol Bangor yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2018