Prifysgol Bangor i gynnal yr ŵyl UniBrass gyntaf yng Nghymru
Cynhelir gŵyl UniBrass ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror 2019. Dyma'r tro cyntaf yn hanes yr ŵyl iddi gael ei chynnal yng Nghymru.
Pencampwriaethau Bandiau Pres Prifysgolion Gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon yw UniBrass ac mae'r ŵyl eleni'n cael ei threfnu gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Sefydliad UniBrass sef elusen a sefydlwyd i ddatblygu'r gystadleuaeth ac i annog myfyrwyr i barhau i chwarae mewn bandiau pres tra bônt yn y brifysgol.
"Mi fyswn i'n dweud, o'r holl ddigwyddiadau ar gyfer bandiau pres yn ystod y flwyddyn mai UniBrass ydy'r diwrnod dwi'n ei fwynhau fwyaf."
Aelod o un fandiau pres Prydain, 2018
Bydd 21 o fandiau o brifysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn cystadlu yn y gystadleuaeth mewn dwy adran, sef adran Tlws UniBrass ac adran Tarian UniBrass. Bydd pob band yn perfformio set ddiddanol o 20 munud o hyd yn y gobaith o gael eu coroni'n bencampwr gan y beirniaid.
Dywedodd Cadeirydd UniBrass, Sam Hartharn-Evans, "Dan ni'n falch iawn o gael croesawu'r ŵyl bandiau pres gyffrous hon i Fangor ac yn gobeithio y bydd pobl leol yn dangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad ac i fandiau pres mewn prifysgolion drwy ddod i wrando ar y cystadlu, y cyngerdd gala a'r gweithdy sy'n rhad ac am ddim i'r cyhoedd."
Dywedodd Muhammad Firdaus, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Bangor: "Dan ni'n andros o falch o'n myfyrwyr am fentro fel hyn. Mae'r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn golygu mai ym Mhrifysgol Bangor y bydd gŵyl UniBrass yn cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed yng Nghymru. Mae o'n ddigwyddiad anhygoel a dan ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy, a dan ni'n cefnogi ymdrechion diflino'r myfyrwyr i wneud yn siŵr y bydd y digwyddiad yma'n llwyddiant. Dan ni'n hyderus y bydd UniBrass ym Mangor nid yn unig yn amser y bydd bandiau pres o bob cwr o Brydain yn ei gofio, ond y bydd hefyd yn ffordd ardderchog o ymwneud â'r gymuned leol."
Cynhelir gweithdy am ddim gyda cherddorion o Gorfflu Cerddoriaeth y Fyddin. Mae'r gweithdy'n agored i chwaraewyr offerynnau pres ac offerynnau taro Gradd 3 ac uwch o bob oed o'r gymuned leol. Daw'r gweithdy i ben gyda pherfformiad yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio yn ystod egwyl yng nghystadleuaeth Tarian UniBrass. Os hoffech gofrestru i gymryd rhan yn y gweithdy, gallwch wneud hynny trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://goo.gl/forms/rBgR2exHLcfM0hw82
Daw'r diwrnod i ben gyda Chyngerdd Gala Band Tredegar. Mae Band Tredegar wedi ymddangos yn y ffilm Pride, a enillodd wobr BAFTA, ac wedi perfformio ar Britain's Got Talent ac wedi ennill pencampwriaeth Band Cymru yn 2016. Bydd y cyngerdd yn dathlu bandiau pres, gan dalu teyrnged i wreiddiau Cymreig y band a dyfodiad UniBrass i Gymru am y tro cyntaf. Mae hwn yn gyngerdd na ddylid ei golli.
Mae'r tocynnau rhataf yn £10 ac ar gael o pontio.co.uk. Mae 9 gwahanol fath o docyn felly, yn sicr, bydd rhywbeth at ddant pawb gan gynnwys tocyn cyfun i'r gystadleuaeth gyfan a'r cyngerdd gala.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2019