Prifysgol Bangor i weithio gydag academyddion clinigol yn Neheudir India i atal marwolaethau drwy hunanladdiad
Mae seiciatrydd cymdeithasol o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas y Brifysgol i arwain tîm o seiciatryddion a gwyddonwyr cymdeithas o Brifysgol Bangor a chydweithwyr yn Neheudir India er mwyn atal marwolaethau drwy hunanladdiad.
Mae Deheudir India ag un o’r canrannau uchaf yn y byd o farwolaethau drwy hunanladdiad. Er bod gwasanaethau clinigol i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl yn bodoli, mae ffactorau diwylliannol a rhai eraill yn golygu bod pobl sydd wedi’u niweidio eu hunain yn aml yn colli cyfle i gael eu hasesu yng nghyswllt afiechydon meddwl y gellid eu trin. O ganlyniad, maent yn fwy tebygol o’u lladd eu hunain yn y pen draw.
Mae’r Athrawon Rob Poole a Catherine Robinson yn cyd-gyfarwyddo Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas Prifysgol Bangor. Maent yn cyfuno sgiliau clinigol a gwyddorau cymdeithas er mwyn datrys problemau iechyd cymhleth. Maent wedi ennill grant o bwys gan Gynllun Partneriaeth Iechyd yr Ymddiriedolaeth Addysg Iechyd Trofannol, a gyllidir gan Adran Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth y DU (DIFID).
Bydd y grant o £60,000 yn cyfrannu at raglen addysgol yn India a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddi hyfforddwyr er mwyn sefydlu rhaglen gynaliadwy i alluogi hyd at 100 o feddygon teulu mewn dau ysbyty i asesu pobl sydd wedi hunan-niweidio, ac yna trefnu triniaeth ar gyfer salwch meddwl lle bo’n briodol.
Fel yr esbonia’r Athro Poole: “Mae’r project hwn wedi’i gynllunio gyda’n cydweithwyr ym Mysore er mwyn ateb angen y maent wedi’i ganfod. Rydym yn cydweithio’n wirioneddol, ac mae cael modd i gynnal y gwaith ar ôl i’r project ddod i ben yn elfen allweddol. Byddwn yn cynnal gwerthusiad trylwyr, ac os bydd y project i’w weld yn effeithiol, rydym yn gobeithio ei gyflwyno i grwpiau eraill o feddygon mewn rhannau eraill o’r wlad.”
Bydd y Tîm yn defnyddio offer asesu cyfrifiadurol a ddatblygwyd gan yr Athro Vimal Sharma. Mae’r offer yn rhoi arweiniad i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd nad ydynt wedi cael hyfforddiant seiciatryddol, drwy asesiad 15 munud o hyd. Mae’n cynhyrchu diagnosisau ac yn argymell camau i’w cymryd wedyn. Bydd y project yn para o fis Medi 2015 hyd at wanwyn 2017.
Mewn llythyr yn llongyfarch y Tîm ar y Wobr, dywedodd y Gwir Anrh Grant Shapps AS, Gweinidog dros Ddatblygiad Rhyngwladol:
“Byddwch chi a’ch sefydliad yn cynorthwyo i wella cyfundrefnau iechyd mewn gwledydd lle mae gwir angen am gefnogaeth … mae partneriaethau fel eich un chi … yn gwneud gwaith pwysig wrth gyfrannu buddiannau pendant a gwella iechyd i bobl yn rhai o rannau tlota’r byd.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2015