Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter
Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan Santander Universities.
Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes, cyn y seremoni:
“Flwyddyn ers i ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU gydnabod effaith fawr ein hymchwil o amgylch y byd, drwy ddatgan bod mwy na thri chwarter ein hymchwil naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol”, rydym yn cael cyfle i ddathlu’r gwaith ymchwil mwyaf blaengar ac sydd wedi cael yr effaith fwyaf. Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth, yng Nghymru, ond hefyd mewn sawl gwlad o amgylch y byd.”
Noson Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor ar 3 Ragfyr yw’r Cinio Gala cyntaf i’w gynnal yn Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio. Mae’n gyfle i ddathlu llwyddiannau academyddion y Brifysgol a’u partneriaid mewn projectau sydd wedi bod o fudd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Yn y rownd derfynol yn y pedwar categori y mae (yn nhrefn y wyddor):
Effaith Ddiwylliannol a Chymdeithasol Orau
Yr Athro Vyv Evans, Ysgol Ieithyddiaeth a Iaith Saesneg am ei ymchwil ar y newid yn natur a defnydd ‘iaith’ yn oes cyfathrebu digidol.
Yr Athro John Witcombe a Dr Daljit Singh Virk, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth am eu gwaith arloesol ar fridio planhigion i greu mwy o fwyd a mwy o incwm i ffermwyr reis.
Dr Einir Young a Gwenan Griffith, o Lab Cynaliadwyedd y Brifysgol, am eu cyfraniad at #Ecoamgueddfa; yr amgueddfa heb waliau, ecoamgueddfa gyntaf Cymru sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol Pen Llŷn.
Effaith Orau ar Bolisi Cyhoeddus ac/neu Wasanaethau Cyhoeddus
(noddir gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC)
Ymchwil gan Yr Athro Enlli Thomas, o’r Ysgol Addysg, ar ddatblygu systemau a dulliau gweithredu i alluogi awdurdodau i fesur, annog a gwerthuso defnydd o’r Gymraeg mewn addysg.
Dr John R Turner o Ysgol Gwyddorau’r Eigion am Warchodfa Môr fwya’r byd: Polisi, Gwarchod, Cadwraeth ac Ymestyn Allan.
Mae'r Athro Dean Williams o Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol ar y rhestr fer am ddatblygu gwasanaeth Traed ar gyfer Pobl â Diabetes sydd wedi arwain at lai o bobl yn gorfod colli troed neu goes.
Arloesi Gorau ym myd Busnes
(noddir y wobr hon gan Siemens Healthcare Diagnostics)
Mae dau broject gan Ganolfan Biogyfansoddion y Brifysgol ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr hon:
Dr Adam Charlton ynghyd â Waitrose, ac Adare Ltd, am eu cynhyrchion cynaliadwy wedi eu gwneud o rygwellt.
Dr Graham Ormondroyd gyda’i bartneriaid WoolCool am ddatblygu deunydd pecynnu sy’n defnyddio gwlân ym meysydd bwyd a meddyginiaeth.
Dr Katherine Steele a James Stroud o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, ynghyd â Burpee Europe ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Sárvári am eu project i fridio tomatos sy’n gwrthsefyll malldod y gellir eu tyfu yn yr awyr agored ym Mhrydain.
Cyfraniad Eithriadol i Gymru
Uned Technolegau Iaith y Brifysgol am eu gwaith ar apiau geiriaduron Cymraeg ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android.
Yr Athro Peredur Lynch, o Ysgol y Gymraeg am ddatblygu adnodd digidol ar-lein - mewn cydweithrediad â WJEC/CBAC i gynorthwyo’r gwaith o ddysgu barddoniaeth ganoloesol Gymraeg i fyfyrwyr Safon Uwch yng Nghymru.
Project Tîm SEACAMS, o Ysgol Gwyddorau’r Eigion am ehangu cyfleoedd busnes cynaliadwy yn y sectorau arfordirol a morol yng Nghymru.
Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y noson wobrwyo ac yn derbyn gwobr o £1,000 i'w hailfuddsoddi mewn gweithgareddau tebyg neu i'w defnyddio i ddatblygu staff. Bydd enillwyr cystadleuaeth Menter Myfyrwyr Santander eleni ac enillydd Gwobr Effaith yr Is-Ganghellor ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig hefyd yn cael eu cydnabod fel rhan o’r dathlu.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015