Prifysgol Bangor wedi ei hachredu i ddyfarnu Cymrodoriaethau'r Academi Addysg Uwch
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi llwyddiant Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus Prifysgol Bangor, sydd wedi cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch y mis hwn.
Datblygwyd y cynllun ar y cyd ag Aberystwyth fel un o nifer o brojectau Cynghrair Strategol Aber-Bangor. Roedd yn ffurfio elfen gwobrwyo a chydnabod Strategaeth Addysgu a Dysgu ac Ehangu Mynediad Aber-Bangor. Dyma’r tro cyntaf i gynllun ar y cyd gan ddwy brifysgol annibynnol cyn-92 yn y DU gael ei achredu.
Mae'r achredu yn golygu y gall y brifysgol ddyfarnu ei Chymrodoriaethau Academi Addysg Uwch ei hun ar draws holl gategorïau Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch, sef: Cymrawd Cyswllt; Cymrawd; Uwch Gymrawd a Phrif Gymrawd. Mae'r Cymrodoriaethau yn llwybr datblygiad proffesiynol parhaus at gael cymhwyster dysgu cydnabyddedig mewn addysg uwch. Bydd y llwybr mewnol hwn yn gwella gallu'r brifysgol i gynyddu canran ei staff sydd â chymhwyster dysgu cydnabyddedig, cyn bod y cyrff cyllido yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddata HESA yn ôl y metrig hwn gael ei gyhoeddi ar lefel sefydliadol o fewn tair blynedd.
Bu Ms. Sue Clayton, Pennaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus (Addysgu a Dysgu) y Ganolfan Ragoriaeth newydd mewn Dysgu ac Addysgu (Uned CELT), yn arwain y datblygiad ym Mangor ac mae ar hyn o bryd yn cyflwyno sesiynau cynefino misol i staff cymwys er mwyn dechrau'r broses gydnabod, ynghyd â chynnal uwch hyfforddiant i gronfa o adolygwyr a fydd yn asesu ceisiadau ar draws y ddau sefydliad. Mae'n falch iawn gyda'r ymateb y mae'r cynllun eisoes wedi ei gael gan amrywiaeth eang o staff ym mhob rhan o Brifysgol Bangor.
Meddai Sue: "Mae'n gyffrous iawn i weld y cynllun hwn wedi'i sefydlu. Mae'n golygu manteision sylweddol i fetrigau'r brifysgol, ac yn ei hanfod mae'n golygu y gall academyddion profiadol ar draws bob pwnc siarad â'u cydweithwyr am eu dysgu da. Mae'r sesiynau rydym eisoes wedi'u cynnal wedi dangos mor fuddiol yw athrawon yn siarad â'i gilydd, yn trafod addysgu a dysgu. Dyna'r hyn ydyw mewn gwirionedd."
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu: "Mae'n newyddion da iawn ein bod yn awr yn gallu achredu ein staff yn lleol - gan wneud y broses gyfan yn llawer haws i'w rheoli, a'n caniatáu ni i gynyddu nifer y staff sy'n cael eu hachredu. Mae'n amlwg bod y broses wedi golygu llawer iawn o waith, ac mae'n wych i weld bod y broses gymeradwyo wedi'i sefydlu."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2014