Prifysgol Bangor ymysg y gorau mewn Arolwg o Fywyd Myfyrwyr
Fel y mae Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu darpar fyfyrwyr i Ddiwrnodau Agored yn y Brifysgol y mis hwn (dydd Sadwrn, 11 a 25 Hydref), mae staff yn y Brifysgol wedi croesawu’r faith bod y Brifysgol wedi’i chynnwys mewn arolwg arall eto o brifysgolion gorau Prydain.
Yn dilyn ymddangosiad cadarnhaol iawn y Brifysgol mewn cynghrair prifysgolion gorau’r byd y Times Higher World University Rankings, The Times & Sunday Times Good University Guide a’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr cynhwysfawr yn ddiweddar, daeth y Brifysgol yn safle 27 yn yr ail arolwg blynyddol ‘Quality of Student Life Survey’ gan Lloyds Bank.
Mae’r arolwg yn meintioli boddhad myfyrwyr yn ôl ystod o ddangosyddion. Mae’r rhain yn cynnwys ansawdd y cwrs, potensial cyflogaeth ac enillion, cost llety, cyfleusterau chwaraeon, bywyd cymdeithasol a throsedd.
Wrth groesawu’r arolwg diweddaraf, meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is Ganghellor Dysgu ac Addysgu;
“Mae gennym gynnig gwych yma ym Mangor. Nid yn unig 130 o flynyddoedd o gynnig addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ond hefyd mentrau a gyflwynwyd yn ddiweddar i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y Brifysgol. Caiff llwyddiant ein dull o weithredu ei adlewyrchu yn y canlyniadau diweddar hyn, ac mae’n bleser gennyf ein gweld yn gwneud yn dda mewn arolwg arall i fyfyrwyr unwaith eto.”
Dyma’r unig brifysgol gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig i gynnig aelodaeth rad ac am ddim o Glybiau a Chymdeithasau i fyfyrwyr. Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn ddiweddar wedi buddsoddi £2.5 miliwn mewn cyfleusterau chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford y Brifysgol, a chwblhau cae chwarae 3G newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, a ddatblygwyd gyda chymorth ariannol gan y Brifysgol.
Mae lleoliad anhygoel y brifysgol, costau byw isel a’r cynnig a’r sicrwydd o ystafell mewn neuadd breswyl fodern, hefyd yn ffactorau sy’n apelio.
Medai Carys Roberts, Cyfarwyddwr Marchnata Cynorthwyol:
“Mae arolygon yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor. Byddwn bob tro’n annog darpar-ymgeiswyr i ddod i un o’n nifer o ddiwrnodau agored yn ystod y flwyddyn cyn penderfynu.”
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014