Prifysgol Bangor ymysg y goreuon o blith prifysgolion Ewrop
Mae Prifysgol Bangor yn un o brifysgolion gorau Ewrop yn ôl tabl a gyhoeddwyd heddiw (10 Mawrth, 2016) gan gylchgrawn y Times Higher Education.
Gyda dim ond Prifysgol Caerdydd o blith prifysgolion Cymru yn ymddangos yn uwch na Bangor yn y tabl sy’n gosod Bangor yn y Grŵp 151-160, mae hyn yn cadarnhau unwaith eto y twf yn statws Prifysgol Bangor yn rhyngwladol.
Mae’r tabl diweddaraf yn gosod y 200 Prifysgol uchaf yn Ewrop yn ôl amgylchedd dysgu, amgylchedd ymchwil, dylanwad eu hymchwil, incwm o ddiwydiant a gogwydd rhyngwladol.
Wrth groesawu'r newyddion diweddaraf, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes:
“Mae Prifysgol Bangor yn denu sylw yn Ewrop. Rydym yn cynnig profiad unigryw i'n holl fyfyrwyr, boed o Brydain neu o Ewrop neu’n fyfyrwyr rhyngwladol. Un o’n hamcanion ar hyn o bryd yw cynyddu’r cyfleoedd i’n myfyrwyr ni allu profi gweithio ac astudio dramor, ac rydym yn credu bod darparu campws amlddiwylliannol yn cyfoethogi profiad addysgol pawb.
Ein gweledigaeth yw bod yn Brifysgol flaenllaw gydag enw da yn rhyngwladol am addysgu ac ymchwil, gan hyrwyddo ac allforio galluoedd a gwerthoedd y Brifysgol a’r rhanbarth.
Mae presenoldeb nifer mor fawr o brifysgolion o ansawdd uchel o ‘r DU ar restr y Times Higher o’r prifysgolion sy’n arwain yn Ewrop hefyd yn amlygu’r parch uchel sydd i’n brifysgolion o fewn y sector addysg uwch yn Ewrop.”
Dim ond ym mis Ionawr, enwyd Prifysgol Bangor yn un o’r 200 o brifysgolion mwyaf rhyngwladol ledled y byd ac fel y brifysgol fwyaf rhyngwladol yng Nghymru. Mae’r Brifysgol hefyd ymhlith y 350 o brifysgolion uchaf yn y byd ar dabl y Times Higher Education World University Rankings.
Yn ôl Phil Baty, golygydd y THE World University Rankings:
“Mae cynghrair newydd y Times Higher Education European University Rankings yn seiliedig ar yr un 13 dangosydd perfformiad cadarn a ddefnyddiwyd i greu Cynghrair Prifysgolion y Byd, ac felly mae’n gamp fawr gallu bod ar y rhestr glodfawr newydd hon o 200.
Roedd yn rhaid i bob un o’r 200 Prifysgol ddangos rhagoriaeth ar draws ystod o fesuriadau, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a gogwydd rhyngwladol, gan sefyll allan o blith y miloedd o Brifysgolion ar draws Ewrop nad oeddent yn cyrraedd y safon.”
Mae’r Brifysgol yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd gan fyfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn y 7fed safle ym Mhrydain yn ôl WhatUni Student Choice Awards (Ebrill 2015). Mae adborth myfyrwyr y Brifysgol am eu profiadau yn ei gosod yn y safle uchaf yng Nghymru ac ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig (o blith prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn arbenigo, sef y prifysgolion traddodiadol sydd yn cynnig dewis eang o bynciau) yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol (2015).
Ceir dolen at ganlyniadau llawn y Times Higher Education yn https://www.timeshighereducation.com/best-universities-in-europe-2016
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016