Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth
Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).
Mae’r cae newydd wedi ei leoli ar safle Caeau Chwarae Treborth ac yn disodli dau gae glaswellt a ddefnyddiwyd ar gyfer cynnal gemau pêl-droed a rygbi. Roedd dŵr yn aml yn casglu ar wyneb y caeau hyn ac yn golygu bod rhaid canslo ac ail-drefnu gemau cynghrair BUCS a gweithgareddau’r Undeb Athletau. Bydd y cae newydd yn galluogi i gemau gael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd ar gael at ddefnydd clybiau lleol, megis tîm pêl-droed Bangor 1876 a sefydlwyd yn ddiweddar, ynghŷd a charfannau oddi mewn i strwythurau Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae caeau 3G yn defnyddio technoleg trydydd cenhedlaeth ym maes caeau synthetig. Mae wyneb y caeau hyn wedi eu creu â glaswellt ffug a chymysgedd o dywod a rwber rhyngddynt. Mae hyn yn arwain at atgynhyrchu gwead glaswellt naturiol ond gan ddarparu wyneb llyfn a gwastad, o’i gymharu â’r wyneb amrywiol ac anwastad a geir ar gae mwdlyd.
Agorwyd y cae yn swyddogol gan Yr Athro Carol Tully (Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr) a dilynwyd y seremoni gyda dwy gêm yng nghynghrair BUCS. Aeth tîm Rygbi’r Undeb Dynion Prifysgol Bangor yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Brifysgol Caer a bu tîm Pêl-droed Merched y Brifysgol yn erbyn carfan o Brifysgol Manceinion.
Croesawyd datblygiad y cae 3G gan Lywydd yr Undeb Athletau, Henry Williams:
‘Mae hwn yn ddatblygiad sydd wir wedi cyffroi ein myfyrwyr ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dymor llawn o gemau a fydd yn cael eu chwarae ar y cae newydd. Yn y gorffennol, fe’n gorfodwyd i ganslo nifer o’n gemau oherwydd problemau gyda dŵr ar wyneb yr hen gaeau ond gyda’r dechnoleg newydd yma y tu cefn i’r glaswellt synthetig, mae’n golygu bod modd i ni gynnal gemau drwy gydol y flwyddyn.’
Hefyd yn bresennol yn yr agoriad swyddogol oedd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor, a fu’n gyfrifol am gomisiynu ac arwain ar ddatblygu’r cae newydd. Meddai:
‘Dyma ychwanegiad cyffrous i’r cyfleusterau sydd gennym ni yma ym Mhrifysgol Bangor a bydd yn caniatáu i fyfyrwyr, clybiau lleol a thimau eraill i chwarae ar gae modern gyda Phont Menai yn gefnlen i’r cyfan. Mae’r datblygiad diweddaraf yma nid yn unig yn ychwanegu at brofiad ein myfyrwyr, mae hefyd yn ychwanegu at ddarpariaeth chwaraeon yr ardal a’r rhanbarth.’
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cae 3G ar safle Treborth, cysylltwch â Canolfan Brailsford.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019