Prifysgol Bangor yn agor ei drysau i gymdogion a'r gymuned yn ystod Wythnos Prifysgolion
Yr wythnos nesaf, (9-15 Mehefin), bydd prifysgolion ledled Prydain yn agor eu drysau i'r cyhoedd a dangos yr effaith a'r dylanwad y mae ymchwil prifysgolion yn eu cael ar ein bywydau ni i gyd.
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn ymgyrch flynyddol Wythnos y Prifysgolion a threfnwyd gweithgareddau yn ystod yr wythnos i alluogi pobl i ddod i mewn i'r Brifysgol.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Mae prifysgolion yn cyflawni swyddogaeth hanfodol mewn cymdeithas ac, ym Mangor, mae gennym draddodiad hir o roi cyfraniad gwerthfawr i’n cymuned leol a hefyd i’r byd yn fwy eang, ar draws sbectrwm eang o weithgaredd. Mae gennym enw da am dorri tir newydd ym maes ymchwil wyddonol yn ogystal ag yn y celfyddydau a’r dyniaethau; rydym yn ymwneud ag arloesi mewn busnes ac â gwella iechyd a lles pobl; rydym yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr fel y gallant fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.”
Bydd Gorsaf Ymchwil y Brifysgol yn fferm Henfaes yn Aber yn agored i'r cyhoedd ddydd Iau 12 Mehefin o 2.00, fel y gall pobl weld y gwaith ymchwil sy'n ein helpu i edrych ar ôl yr amgylchedd a gwneud y defnydd gorau o'n tirwedd amaethyddol.
Bydd y projectau a gaiff eu harddangos yn cynnwys datblygu tomatos a dyfir yn yr awyr agored, ymchwil i weld a all y compost y mae cynghorau'n ei gynhyrchu o wastraff gardd gael ei ddefnyddio i dyfu tatws, sut mae Cennin Pedr yn cael eu defnyddio i drin afiechyd Alzheimer a pham nad yw gwenyn yn pigo bob amser. Mae'n hawdd iawn dod i'r achlysur hwn. Gall ymwelwyr sy'n bwriadu dod gael mwy o wybodaeth drwy anfon e-bost at alison.evans@bangor.ac.uk neu drwy ffonio Gorsaf Ymchwil Henfaes ar 01248 382281.
Gyda dros 2,000 o staff yn byw yn yr ardaloedd o amgylch Bangor, mae'r Brifysgol wedi creu cyfle newydd i bobl ymweld â'r sefydliad. Efallai nad yw llawer o bobl wedi cael cyfle i ymweld erioed ag adeiladau'r Brifysgol, felly mae aelodau staff y Brifysgol wedi cael eu gwahodd i ddod â chymydog i'r Brifysgol i gael blas ar ddysgu yno.
Mae'r gyfres flasu hon wedi cael ei threfnu gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau blasu technoleg newydd ac iaith, yn ogystal â sesiwn i brofi dull myfyrio Ymwybyddiaeth Ofalgar. Bydd cyfle hefyd i gael taith gydag arweinydd o amgylch rhai o adeiladau'r Brifysgol ac ymweliad ag Amgueddfa Byd Natur y Brifysgol.
Meddai Delyth Murphy o Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol:
"Roeddem yn meddwl y byddai rhoi cyfle i bobl ddod i'r Brifysgol yng nghwmni aelod staff yn brofiad cyfeillgar iddynt. Mae'n galluogi'r cymdogion hefyd i gael blas ar rai gweithgareddau a allai fod yn fuddiol iddynt o ran eu gwaith neu eu diddordebau hamdden. Rydym wedi cael sylwadau a diddordeb rhagorol yn y cyfleoedd dysgu y mae'r Brifysgol yn eu cynnig ac rydym yn bwriadu cynnig cyfleoedd tebyg yn y dyfodol."
Mae gweithgareddau eraill yn ystod yr Wythnos Prifysgolion yn cynnwys Ysgol Haf Ddechreuol ar 10-11 Mehefin i ddarpar entrepreneuriaid. Cynigir hon i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru gan dîm Byddwch Fentrus y Brifysgol. Bydd unrhyw leoedd gwag ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol. Hefyd trefnir sesiynau blasu a Brecwastau Busnes. Mae manylion llawn i'w cael ar wefan Wythnos Prifysgolion y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2014