Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg
Bydd Prifysgol Bangor yn arwain datblygiad i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr ledled Cymru, diolch i gais llwyddiannus am arian gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Daeth tîm o aelodau staff o amrywiol adrannau yn y brifysgol ynghyd â chydweithwyr o sefydliadau partner i ddatblygu portffolio cyffrous o ddarpariaeth, a gaiff ei ddatblygu a'i lansio dros y 10 mis nesaf.
Meddai Maria Lorenzini, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor: "Roeddem eisiau gwella hygyrchedd cefnogaeth iechyd meddwl priodol i bob myfyriwr Cymraeg iaith gyntaf yng Nghymru. Bydd ein project aml haenog yn gam mawr ymlaen o ran sicrhau cywerthedd i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith."
Meddai Kate Tindle, Pennaeth Cwnsela ym Mhrifysgol Bangor: "Ddaru ni gynnig tair menter ar wahân ar gyfer y project hwn – ond mae pob un ohonynt yn cysylltu â'r ddwy arall, a bydd pob un yn gwella effeithiolrwydd y lleill."
Y dasg gyntaf fydd creu adnoddau iechyd meddwl ar-lein wedi eu teilwra'n benodol i'w defnyddio gan unrhyw fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg, mewn Cymraeg darllenadwy a dealladwy. Yn ail, cynigir hyfforddiant Sgiliau Therapi Ymddygiad Dilechdidol i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ar draws prifysgolion Cymru. Mae hwn yn fodel sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac a brofwyd ym Mhrifysgol Bangor, ac mae'n cefnogi'r grwpiau myfyrwyr mwyaf bregus o bosib – y rhai sy'n hunan-niweidio a/neu'n ystyried hunanladdiad. Yn olaf, ond llawn cyn bwysiced, bydd Endaf Evans, un o'r cwnselwyr sy'n siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yn ffurfio Rhwydwaith Ymarferwyr a Therapyddion Iechyd Meddwl Cymraeg Cymru. Bydd datblygu'r rhwydwaith hwn yn cefnogi cynaliadwyedd tymor hir cefnogaeth iechyd meddwl Cymraeg i fyfyrwyr.
Mae Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygiad yng Nghanolfan Bedwyr ym Mangor yn pwysleisio pwysigrwydd y gwaith hwn: "O dan Safonau'r Gymraeg, mae dyletswydd statudol ar brifysgolion i ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau cwnsela neu gael cefnogaeth gydag iechyd meddwl. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi pwysleisio hawliau myfyrwyr yn hyn o beth gyda'r ymgyrch 'Mae Gen i Hawl'. Fodd bynnag, fel y pwysleisia Llywodraeth Cymru, mae darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu llawer mwy na chydymffurfio. Yn y strategaeth 'Mwy na Geiriau' (2016), nodir: "Mae sicrhau diogelwch, urddas a pharch siaradwyr Cymraeg wrth wraidd darparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn Gymraeg."
Cefnogwyd cynnig y project gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: “Mae hwn yn faes anhygoel o bwysig ac yn faes gyda phrinder cefnogaeth ddifrifol.”
Cefnogwyd y project yn llawn gan Undeb Bangor, sef Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Meddai Lleucu Myrddin, Llywydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor):
“Mae'n newyddion gwych bod Prifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus gyda'r cais hwn am arian gan HEFCW ac y bydd yn arwain y gwaith o ddatblygu darpariaeth iechyd meddwl Cymraeg i fyfyrwyr ym Mangor ac ar draws Cymru. Mae UMCB ac Undeb Bangor wedi bod yn lobïo’n genedlaethol am adnoddau iechyd meddwl digonol yn yr iaith Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n amlwg bod gwasanaethau digidol, sy'n hynod bwysig i genedlaethau iau, wedi bod ar ei hôl hi trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n gadarnhaol iawn mai rhan o'r project hwn fydd creu adnoddau ar-lein yn Gymraeg. Mae'n fater o egwyddor na ddylai unrhyw siaradwyr Cymraeg orfod gwneud heb wasanaethau dim ond oherwydd mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ac rydym yn falch iawn o weithio gyda'r brifysgol ar y project hwn".
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019