Prifysgol Bangor yn arwain prifysgolion Cymru o ran boddhad myfyrwyr
Prifysgol Bangor yw'r gorau yng Nghymru, yn ôl y dull diweddaraf o fesur boddhad myfyrwyr, ac mae yn y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol y DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy'n cynnig ystod eang o bynciau.
Daw'r canlyniadau o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, sef arolwg o oddeutu hanner miliwn o fyfyrwyr sy'n graddio o bob prifysgol yn y DU ac sy'n rhoi'r adborth mwyaf cynhwysfawr am brofiad myfyrwyr ym mhob sefydliad.
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymateb i'r canlyniadau:
"Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, a chaiff hyn ei gadarnhau gan y canlyniadau gwych hyn. Rydym yn arbennig o falch bod yr arolwg yn ein gosod mor amlwg ar y brig yng Nghymru. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno mentrau i roi llais cryfach i fyfyrwyr yn y brifysgol ac mae llwyddiant ein dull o weithredu wedi’i adlewyrchu yn y canlyniadau hyn”.
Yn ogystal â bod ar frig y tabl cyffredinol yng Nghymru, roedd y myfyrwyr wedi rhoi'r sgôr uchaf i Fangor ym mron pob un o'r is-gategorïau hollbwysig fel ansawdd yr addysgu ar y cyrsiau, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd a threfniadaeth a rheolaeth y cyrsiau.
Ychwanegodd: "Dylai'r data roi gwybodaeth werthfawr i ddarpar fyfyrwyr a'n hysbrydoli i wneud hyd yn oed yn well yn ystod y flwyddyn i ddod".
Erbyn hyn mae Prifysgol Bangor yn gydradd seithfed ymhlith prifysgol anarbenigol y DU. Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yw mai Bangor yw'r trydydd ymhlith y prifysgolion hyn yn y DU o ran boddhad gyda chefnogaeth academaidd, gyda sgôr dda am allu myfyrwyr i gysylltu â staff pan roeddent angen gwneud hynny (5ed yn y DU), ac am degwch o ran trefniadau asesu a marcio (7fed).
Meddai'r Athro Turnbull:
"Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhad arbennig o'n gweithgareddau a'n gwerthoedd. Wrth gymharu ein prifysgol gyda phrifysgolion eraill sy'n dysgu ystod eang o bynciau addysg uwch, mae'n wych ein bod yn y 10 uchaf yn y DU, ac o ran boddhad cyffredinol rydym yn awr ar yr un lefel â phrifysgolion traddodiadol eraill fel Glasgow, Durham ac yn wir Rhydychen a Chaergrawnt hefyd. Mae’n safle sydd unwaith eto yn adlewyrchu'r safon addysgu ragorol sydd ar gael ym Mangor.”
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2014