Prifysgol Bangor yn cadarnhau ei henw da ym maes gwyddor gwlyptiroedd
Mae gwobr ryngwladol a chwrs newydd arloesol yn cadarnhau fod Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd ym maes gwyddor gwlyptiroedd.
Mae un o ysgolheigion blaenaf y brifysgol wedi ennill gwobr wyddonol fawr yn yr un wythnos ag yr oedd yn lansio cwrs oedd y cyntaf o'i fath yn y DU.
Mewn cyfarfod o arbenigwyr gwyddor gwlyptiroedd pwysicaf y byd yn America, cyflwynwyd y wobr uchaf y gallai'r grŵp fod wedi ei chyflwyno i'r Athro Chris Freeman.
Gwnaed yr Athro Freeman yn Gymrawd o Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd fel cydnabyddiaeth o'r gwaith ymchwil arloesol y mae wedi bod yn ei wneud yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.
Gwnaed y cyhoeddiad ar yr un pryd ag yr oedd yr Athro'n lansio gradd Meistr unigryw fydd yn cael ei dysgu yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd.
Canmolwyd yr Athro Freeman gan Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd am ei waith yn torri tir newydd ym maes ailgylchu carbon a maetholion mewn gwlyptiroedd.
Mae rhai o'i ganfyddiadau'n cael eu defnyddio mewn projectau geobeirianyddol er mwyn ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac mae wedi gweithio ar ffyrdd o wneud dŵr yfed yn rhatach ac yn fwy diogel i gartrefi Prydain.
Ar ôl iddo gael gwybod am ei wobr, dywedodd yr Athro Freeman: "Mae'n anrhydedd enfawr derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd, ac mae'n wych fod ein gwaith ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. "Mae'n amserol iawn hefyd oherwydd rydym newydd lansio gradd meistr newydd ar Wyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd yn y brifysgol felly mae'n hwb go iawn i'n nod ni o sicrhau fod Bangor yn arwain y ffordd wrth ymchwilio a dysgu gwyddor gwlyptiroedd."
Y cwrs ôl-radd blwyddyn yw'r unig un o'i fath yn y DU, a bydd myfyrwyr yn dysgu popeth, o sut i adeiladu gwlyptiroedd, i sŵoleg mangrofau isdrofannol.
Wrth egluro pwysigrwydd gwlyptiroedd, dywedodd yr Athro Freeman: "Mae llawer o bobl yn cymryd ein gwlyptiroedd yn ganiataol, ond maen nhw ymysg y cynefinoedd sydd mewn mwyaf o berygl ar y blaned, ac maent yn hanfodol bwysig i'n bodolaeth ni.
"Maent yn darparu dŵr glân, adnoddau a bwyd i ni, ac maent hyd yn oed yn rheoli'r hinsawdd.
Ychwanegodd: "Mae pobl yn aml yn cyfeirio at y fforestydd fel ysgyfaint y byd, ond y gwlyptiroedd yw'r galon - hebddynt, ni fyddai llawer o fywyd o gwbl."
Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau ar y cwrs MSc Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd ym mis Medi, ac mae cefnogaeth ariannol ar gael i fyfyrwyr o ogledd Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y cwrs e bostiwch Christian Dunn c.dunn@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013