Prifysgol Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddir heddiw (dydd Mercher, 21 Medi 2016). Daw’r llwyddiant yma er gwaethaf y ffaith bod mwy o brifysgolion yn gymwys bellach i’w hystyried ar gyfer y rhestr. Mae’r tabl diweddaraf yn gosod 980 sefydliad o 79 gwlad yn eu trefn, gan ei wneud y tabl mwyaf swmpus i’r THE ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Gan ganolbwyntio ar enw da rhyngwladol sydd gan brifysgolion am eu hymchwil, mae’r canlyniadau yn gosod Prifysgol Bangor yn rhif 38 o’r 91 prifysgol o’r DU sy’n gymwys i’w hystyried ar gyfer y tabl.
Y rhestr hon, sy’n cynnwys Prifysgol Bangor fel un o brifysgolion gorau’r byd, yw’r ddiweddaraf mewn nifer o dablau cynghrair ac arolygon sydd wedi dod â chlod i’r brifysgol.
Mae’r Brifysgol yn 4ydd ym Mhrydain yn ôl WhatUni Student Choice Awards (Ebrill 2016) ac ymysg y 15 prifysgol uchaf yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (National Student Survey 2015) (ymysg prifysgolion nad ydynt yn arbenigo, sef y prifysgolion traddodiadol sydd yn cynnig amrediad eang o bynciau). Mae'r sgôr yn gosod Bangor yn gydradd â phrifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt am y drydedd flwyddyn yn olynol ac yn dangos cysondeb yn y lefel uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr Bangor.
Gan groesawu’r newyddion am enw da’r brifysgol yn rhyngwladol, dywedodd Is-ganghellor Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Erbyn hyn mae presenoldeb Prifysgol Bangor i'w deimlo ledled y byd. Mae'r brifysgol yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol ac yn fyd-eang. Mae’r tabl hwn yn atgyfnerthu ein henw da cynyddol drwy’r byd."
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu:
“Mae gennym draddodiad sy’n ymestyn dros 130 o flynyddoedd o ddarparu addysgu a gofal rhagorol i fyfyrwyr, ac rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.”
Mae safle byd eang yn gynyddol bwysig i brifysgolion. Mae recriwtio myfyrwyr yn digwydd mewn marchnad ryngwladol. Mae oddeutu 3.7 miliwn o fyfyrwyr yn astudio tu allan i’w gwledydd brodorol - nifer fydd yn cynyddu i 7 miliwn erbyn 2020 yn ôl rhagamcaniadau, felly mae cael enw da yn rhyngwladol yn bwysig i brifysgolion. Cynhelir ymchwil yn gynyddol mewn prifysgolion gan dimoedd rhyngwladol sy’n cydweithio ar draws prifysgolion, ac mae proffil uchel yn hanfodol er mwyn gwneud cysylltiadau academaidd ac ymchwil gwerthfawr.
Gellwch weld y rhestr gyflawn o’r Times Higher Education World University Rankings yn: https://www.timeshighereducation.com/news/world-university-rankings-2016-2017-launch-date-announced
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016