Prifysgol Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddir heddiw (dydd Mawrth, 5 Medi 2017).
Yn ogystal â hyn, mae Prifysgol Bangor wedi ei gosod ymhlith 10% uchaf o brifysgolion y byd am ei Bydolwg Rhyngwladol.
Roedd cyfanswm o 1102 o sefydliadau wedi eu cynnwys yn y rhestr eleni, a oedd yn mesur agweddau megis Addysgu, Ymchwil a Bydolwg Rhyngwladol.
Y rhestr hon, sy’n gosod Prifysgol Bangor fel un o brifysgolion gorau’r byd, yw’r ddiweddaraf mewn nifer o dablau cynghrair ac arolygon sydd wedi dod â chlod i’r brifysgol yn ddiweddar.
Yn gynharach eleni, dyfarnwyd safon Aur i’r Brifysgol am ansawdd ei Addysgu yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU – yr unig brifysgol yng Nghymru i dderbyn y safon uchaf yma.
Yn ogystal â hyn, mae myfyrwyr y Brifysgol, unwaith yn rhagor, wedi talu teyrnged arbennig i’r sefydliad yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, gan ei gosod yn yr wythfed safle yn y DU (ac eithrio prifysgolion arbenigol) ac yn ail ymhlith prifysgolion Cymru. Cafwyd llwyddiant pellach yng Ngwobrau WhatUni 2017, wrth i Glybiau a Chymdeithasau’r Brifysgol ennill y brif wobr a chael eu dyfarnu y gorau yn y DU.
Hefyd yn 2017, o ganlyniad i’w hymrwymiad i faes cynaliadwyedd, cafodd y Brifysgol ei chydnabod a’i gosod yn y 4% uchaf o brifysgolion gwyrdd y byd gan yr UI Green Metric.
Gan groesawu’r newyddion am enw da’r brifysgol yn rhyngwladol ac wrth edrych yn ôl ar lwyddiannau’r Brifysgol yn ystod y flwyddyn, dywedodd Is-ganghellor Bangor, Yr Athro John G. Hughes:
“Rwyf wrth fy modd fod Prifysgol Bangor unwaith yn rhagor yn cael ei gosod ymhlith prifysgolion gorau’r byd ac yn chydnabod am ei bydolwg rhyngwladol drwy ei gosod yn y 10% Uchaf. Mae impact ein ymchwil, yn aml iawn yn ffrwyth cydweithio â phartneriaid rhyngwladol, i’w weld a’i deimlo ar hyd a lled y byd. Yn ogystal â hyn, mae safon uchel ein addysgu a’r awyrgylch y darperir yr addysg honno oddi mewn iddi, yn golygu fod Bangor yn lle hynod ddeniadol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd."
Gellwch weld y rhestr gyflawn o’r Times Higher Education World University Rankings yma: https://www.timeshighereducation.com/world-university-rankings
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017