Prifysgol Bangor yn cael ei derbyn i Rwydwaith Ysgol y Gyfraith Ewrop
Mae Prifysgol Bangor wedi ymaelodi ag Ysgol y Gyfraith Ewrop uchel ei pharch, sef rhwydwaith o ddim ond 16 o brifysgolion ledled y byd.
Mae'n ymuno â phrifysgolion blaenllaw o naw gwlad, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Sbaen, yr Eidal, Groeg ac Iwerddon, mewn menter ar y cyd sy'n ceisio gwella dealltwriaeth myfyrwyr o systemau cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd a'r gwahanol draddodiadau cyfreithiol yn Ewrop.
Sefydlwyd Ysgol y Gyfraith Ewrop (neu'r Ecole Europeenne De Droit) gan Brifysgol Toulouse 1 Capitole i hyrwyddo dysgu amrywiaeth ddiwylliannol, ieithyddol a chyfreithiol fel rhan o radd y gyfraith, gyda golwg ar ddatblygu graddedigion y gyfraith sy'n cydnabod ac yn deall sut mae cyfreithiau cenedlaethol ac Ewropeaidd yn gweithredu ar draws ffiniau cenedlaethol.
Gwneir hyn trwy annog myfyrwyr i symud o gwmpas trwy bartneriaethau cyfnewid, a datblygu graddau dwbl lle gall myfyrwyr rannu eu hastudiaethau'n gyfartal rhwng dwy brifysgol sy'n aelodau o'r bartneriaeth. Mae Bangor eisoes yn darparu un radd o'r fath mewn partneriaeth â Toulouse, yr LLB English Law & French Law, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac yn galluogi graddedigion i gael LLB o Fangor a Meistr 1 yn y Gyfraith gan y partner yn Ffrainc.
Mae'r myfyrwyr yn dechrau'r rhaglen yn Toulouse, lle maent yn astudio prif bynciau yng Nghyfraith Sifil am ddwy flynedd, ac yna dwy flynedd bellach o astudiaethau Cyfraith Gyffredin ym Mangor. Mae hyn yn eu galluogi i symud yn gyfforddus rhwng Cyfraith Sifil a'r Gyfraith Gyffredin, gan felly eu paratoi i fod yn gyfreithwyr masnachol rhyngwladol y dyfodol.
Wrth groesawu mynediad Bangor i Ysgol y Gyfraith Ewrop, meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor: "Mae bod yn rhan o'r rhwydwaith yn golygu ein bod yn cael mynediad i rai o brifysgolion mwyaf Ewrop, fel Prifysgol Barcelona, Prifysgol Milan, Prifysgol Thessaloniki, a Phrifysgolion Passau a Mannheim yn yr Almaen. Rydym yn hapus iawn ag ansawdd y graddedigion sydd eisoes wedi dod atom o Toulouse, ac rwyf yn gwybod eu bod wedi cael profiad cyfoethog yn astudio traddodiadau'r Gyfraith Sifil a Chyfraith Gyffredin yma.
Ychwanegodd: "Mae creu rhaglenni arloesol fel ein gradd ar y cyd gyda Toulouse yn golygu llawer o ymdrech a sylw, ond mae'n un o'r rhesymau pam eu bod yn awr wedi rhestru fel un o ysgolion y gyfraith gorau yn y Deyrnas Unedig. Yn ddiweddar, nodwyd mai ni yw'r orau o blith ysgolion y gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Guardian, ac rydym yn ennill sgoriau uchel yn gyson yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr blynyddol. Mae'n amlwg y gall myfyrwyr weld bod ein dull addysgu a'n trefniant deallusol yn addas i'w rhagolygon cyflogaeth at y dyfodol".
Mae'r 'dull addysgu' hwn yn cynnwys pwyslais ar wella cyflogadwyedd myfyrwyr trwy brofiad ymarferol. "Mae ein rhaglen interniaeth wedi cael llawr o ganmoliaeth. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cwrdd â'r galw gan gyflogwyr sy'n chwilio'n benodol am raddedigion Bangor ar gyfer eu lleoliadau interniaeth.
"Pan ofynnais i gwmni mawr y gyfraith yn America pam eu bod yn hoffi cymryd ein graddedigion ar interniaethau, eu hateb oedd eu bod yn "hoffi cymryd graddedigion Bangor oherwydd eu bod yn gwybod beth i'w wneud". Roedd hyn yn dipyn o ganmoliaeth ac roeddwn yn falch o'i glywed."
Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y LLB English Law & French Law gysylltu â Julien DeLord ym Mhrifysgol Toulouse 1 Capitole yn Julien.Delord@ut-capitole.fr
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2016