Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes.
Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.
Wedi ei henwedbu am bedair gwobr gan Busines Insider, Prifysgol Bangor oedd prif enillydd y noson, gan gael ei choroni yn Brifysgol y Flwyddyn a hefyd derbyn gwobr am y Broses Newydd orau, am ei gwaith ar y cyd â chwmni Recordiau Sain Cyf, ynghyd â Gwobr y Bartneriaeth Orau am ei ran arweiniol yn rhaglen KESS II.
Derbyniodd y Brifysgol wobr Prifysgol y Flwyddyn o ganlyniad i’w chydweithio effeithiol â diwydiant. Mae’r Brifysgol wedi arwyddo partneriaethau yn ddiweddar â chwmni Horizon Nuclear Power a Siemens Healthcare Diagnostics, gan ychwanegu oddeutu £250 miliwn at economi’r rhanbarth.
Rhoddwyd gwobr am y Broses Newydd orau am bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a chwmni Recordiau Sain Cyf. Dan arweiniad Dr Steffan Thomas o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau y Brifysgol, arweinwyd y cwmni at y farchnad e-werthu. Datblygwyd gwefan newydd a sefydlwyd partneriaethau ar gyfer dosbarthu digidol ar draws yr holl blatfformau gwerthu mawr megis iTunes, Amazon a Spotify. O ganlyniad i’r newidiadau a wnaethpwyd i strwythur ddata y catalog digidol – sy’n cynnwys dros 18,000 o draciau unigol – mae’r gerddoriaeth bellach ar gael gan y cwmnïau dosbarthu o fewn 4 diwrnod wedi i albwm gael ei rhyddhau.
Rhoddwyd Gwobr y Bartneriaeth Orau i’r rhaglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS II). Wedi ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016, adeg llunio’r cais ar gyfer gwobrau’r Business Insider, roedd gan KESS II 87 project cyfredol, 137 wedi eu cymeradwyo i gychwyn ym mis Hydref 2016 ac roedd y rhaglen wedi cydweithio â 215 o gwmnïau a chyrff eraill yng Nghymru. Wedi ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y Sector Addysg Uwch yng Nghymru, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu oddi mewn i raglen yr European Convergence Programme. Maent yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr Meistr (Ymchwil) a myfyrwyr doethurol gydweithio â chwmnïau, gyda’r ysgoloriaethau hyn yn cael eu cefnogi gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Yr un noson ond mewn prifddinas arall, derbyniodd y Brifysgol gydnabyddiaeth gan y Chartered Institution of Wastes Management yn eu Sustainability and Resource Awards am ei hymgyrch gynaliadwyedd #CaruNeuaddau. Mae’r ymgyrch, dan arweiniad ‘Y Tîm Bywyd Preswyl’ a chyda chyngor arbenigol gan dîm y Lab Cynaliadwyedd, wedi creu arbedion sylweddol i’r Brifysgol a’i myfyrwyr ac wedi arwain at gyfraniadau sylweddol ar gyfer elusennau. Gan arwain yn ôl ei safonau ei hun, mae’r Brifysgol wedi arbed dros £100,000 mewn blwyddyn ac wedi creu arbedion i fyfyrwyr unigol drwy eu hannog i gynllunio eu siopa bwyd ac i wneud hynny i gyllideb benodol. Mae’r Brifysgol a myfyrwyr unigol hefyd wedi rhoddi nwyddau i elusennau lleol er mwyn eu defnyddio neu werthu ymlaen.
Gyda rhai o arbenigwyr uchaf eu parch y sector yn beirniadu, mae’r gwobrau cydnabyddedig hyn yn cael eu rhoi am gyrhaeddiad yn niwydiannau cynaliadwyedd, adnoddau a gwastraff. Maent yn arddangos projectau, arloesedd ac ymdrechion rheoli adnoddau yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn cael eu henwebu a’u noddi gan gyrff ar arweinwyr ar draws y DU sydd ag angerdd arbennig ynghylch rhagoriaeth. Prifysgol Bangor oedd yr unig brifysgol a dderbyniodd enwebiad ac ymddangosodd ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr, gan rannu’r llwyfan â chyrff cenedlaethol a rhyngwladol megis Aldi a Jaguar LandRover.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes, wrth drafod y llwyddiannau diweddaraf hyn:
“Rwy’n hynod falch fod y Brifysgol wedi ei chydnabod yn Brifysgol y Flwyddyn am ei chydweithio â busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac am ei ymgyrch gynaliadwyedd #CaruNeuaddau. Dyma enghreifftiau gwych o flaenoriaethau’r sefydliad hwn ar waith, sef ychwanegu gwerth gwirioneddol at economi’r rhanbarth ond gan hefyd weithredu yn unol â’n enw da fel Y Brifysgol Gynaliadwy.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016