Prifysgol Bangor yn cefnogi’r cais i adleoli pencadlys S4C i Gaernarfon
Mae Prifysgol Bangor wedi datgan eu cefnogaeth i’r cais i adleoli pencadlys S4C i Gaernarfon.
Yn ôl y Brifysgol mae manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol sylweddol i symudiad o’r fath. Yn ogystal, oherwydd cryfderau’r ardal byddai’n gam naturiol i S4C er mwyn cryfhau ei ddarpariaeth ar gyfer gwylwyr yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor: “Mae manteision niferus i S4C adleoli i Gaernarfon. Yn ogystal â’r hanes a’r traddodiad sylweddol o gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel gan gwmnïau o’r ardal, mae yna eisoes gnewyllyn cryf iawn o gwmnïau cynhyrchu a digidol yn yr ardal.
“Mae yna fanteision sylweddol hefyd o gael Prifysgol gerllaw sydd gydag enw da am ei dysgu a’i hymchwil yn rhyngwladol. Gall y Brifysgol gynnig cymuned gyfan o arbenigwyr i S4C, gan gynnwys pobl sy’n arweinwyr rhyngwladol yn eu maes yn ogystal â graddedigion o ansawdd uchel all weithredu yn ddwyieithog.”
Dywedodd yr Athro Hunter fod ystyriaethau economaidd hefyd yn bwysig, ac mae’r Brifysgol yn credu y byddai symud i Gaernarfon yn gostwng costau S4C dros amser.
Meddai: “Yn bwysicach efallai, byddai’n arwydd clir i bobl Cymru o’r awydd i ddosbarthu manteision a cyfleoedd economaidd ymhellach na choridor yr M4 yn unig.”
“Mantais arall sylweddol i S4C yw’r buddsoddiad newydd o £46m yng nghanolfan ‘Pontio’ y Brifysgol. Eisoes mae diddordeb rhyngwladol wedi bod yn y ganolfan a gall y cysylltiadau hynny fod yn fanteisiol iawn i S4C. Mae gwaith ymchwil y Brifysgol mewn sawl maes hefyd yn fanteisiol i S4C a bydd sawl cyfle i ni gydweithio, nid yn unig ar y ddarpariaeth draddodiadol, ond hefyd gyda golwg ar ddatblygu technolegau newydd ar gyfer y dyfodol wrth iddynt adleoli i Gaernarfon.”
“Credwn yn gryf y dylai S4C adleoli i Gaernarfon. Dyma’r dewis hollol amlwg,” ychwanegodd yr Athro Hunter.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014