Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon
Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.
Mr Dan Mulhall yw cynrychiolydd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig ers 2013, a chafodd ei groesawu i'r brifysgol gan yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes a thra bu yma, bu mewn cyflwyniad yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae ymchwilwyr yn yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Iwerddon ar ddwy bartneriaeth sy'n edrych ar Fôr Iwerddon. Mae partneriaeth Bluefish, ym maes gwyddorau'r eigion, yn werth €5.5m ac yn ymchwilio i effaith newid hinsawdd ym Môr Iwerddon ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn, tra dylai 'Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon' roi gwell dealltwriaeth i bysgotwyr a gwyddonwyr o sut mae larfâu pysgod cregyn yn teithio o amgylch Môr Iwerddon, a phryd ac ymhle y gellir eu canfod. Caiff y ddau broject eu hariannu gyda chymorth rhaglen cydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth groesawu Mr Mulhall i'r brifysgol, dywedodd yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes:
“Braf yw cael estyn croeso i Lysgennad Iwerddon yma i Brifysgol Bangor ac i ddangos iddo rywfaint o’r cydweithio arloesol sy’n digwydd rhwng y brifysgol a sefydliadau yn Iwerddon. Yn ogystal â bod yn bartneriaid daearyddol agos, mae’r diddordebau academaidd cyffelyb sydd rhyngom, o astudio ieithoedd a llên Geltaidd i wyddorau eigion, wedi esgor ar brojectau ymchwil cyfun o safon gwirioneddol ryngwladol.”
Cafodd Mr Mulhall hefyd gyfarfod â rhai o'i gydwladwyr sy'n gweithio yma ym Mhrifysgol Bangor a chyfarfod ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, a fu i ymweld ag Iwerddon yn ddiweddar fel rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru gyda'r bwriad o gryfhau'r cyswllt hanesyddol sydd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Wrth siarad yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Mr Mulhall bod y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn hirsefydlog a bod yr ymchwil cydweithredol sy'n digwydd ar hyn o bryd rhwng Cymru ac Iwerddon yn cryfhau'r berthynas arbennig honno ymhellach. Meddai:
"Pleser yw cael ymweld â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Forol Cymru i weld cryfder yr ymchwil cydweithredol rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon ar waith. Mae'r projectau ymchwil arbennig a ariannwyd gan Raglen Iwerddon-Cymru yr UE yn dangos i mi y creadigrwydd a’r doniau sy’n cael eu cefnogi gan y rhaglen hon yn ogystal â phwysigrwydd y cydweithrediad agos yma."
Mae Mr Mulhall yn nesáu at ddiwedd ei gyfnod fel Llysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig a bydd yn fuan yn dechrau mewn swydd newydd fel prif gynrychiolydd Iwerddon yn Washington DC.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017