Prifysgol Bangor yn croesawu’r Achrediad diweddaraf i Bysgodfa Gynaliadwy
Mae Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi croesawu’r newydd fod y bysgodfa sy’n cynhyrchu Cregyn y Frenhines (Queenies) o Ynys Manaw, wedi ennill tystysgrif gynaladwyedd o dan Raglen y Cyngor Stiwardiaeth Forol.
Mae arbenigwyr ym maes pysgodfeydd cynaliadwy yn yr Ysgol wrthi’n gweithio er 2006 gydag Adran Llywodraeth Ynys Manaw dros yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaeth, er mwyn ei chynghori ar sut i reoli’r bysgodfa mewn modd cynaliadwy. Maent hefyd wedi gweithio mewn cysylltiad agos â’r diwydiant pysgota, er mwyn osgoi’r cylchoedd o ffyniant a dirwasgiad a fu.
Fel yr esboniodd yr Athro Mike Kaiser a arweiniodd yr ymchwil hon: “Bu ein gwyddoniaeth yn ymdrin â’r cwestiynau allweddol am gynaladwyedd y bysgodfa. Roedd hyn yn gofyn am ymdrech ddyfal i gasglu data am stociau cregyn bylchog, cynefinoedd gwely’r môr a phethau eraill oedd yn cael eu dal o ganlyniad i ddefnyddio’r offer pysgota. Fodd bynnag, fuasai dim o hyn o werth heb gydweithrediad y pysgotwyr. Mae llunio polisïau ymarferol ar bysgodfeydd cynaliadwy yn dibynnu ar lawer mwy na thystiolaeth ynglŷn â’r bywyd morol – mae angen inni roi ystyriaeth i ymddygiad pobl hefyd. Yr un mor bwysig yw ein rhan ni yn y broses.”
Mae’n ychwanegu: “Mae ennill yr achrediad yn hwb arall eto i’r diwydiant queenies proffidiol. Bydd logo’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn ychwanegu at hyn, gan alluogi’r prynwyr i brynu eu cynnyrch yn hyderus, a chyda chydwybod clir eu bod yn prynu pysgod o ffynhonnell gynaliadwy.”
“Mae’r llwyddiant hwn yn esiampl werthfawr i bysgodfeydd eraill, gan ddangos beth yr hyn y gellir ei gyflawni trwy drafodaeth agored a chydweithrediad – yn hytrach na gorfodaeth.”
Mae cogyddion yn rhoi pris uchel ar gregyn bylchog a ddelir gan bysgotwyr o gychod dydd sydd wedi’u cofrestru gan Ynys Manaw yng yr Ŵyl Queenies dri diwrnod. Er ei bod ar un adeg ar drai, mae bysgodfa gynaliadwy y queenies, fel y gelwir y cregyn fylchog yn lleol, bellach yn cynhyrchu bwyd o safon uchel y mae galw amdano ym mwytai goreuon y DU.
Yn ôl ymchwil gan y Brifysgol:
* Roedd dulliau newydd o bysgota yn cael llawer llai o effaith ar gynefinoedd gwely’r môr wrth ochr pysgodfeydd cregyn bylchog eraill. Dangoswyd hefyd nad oedd niferoedd arwyddocaol o rywogaethau eraill yn cael eu dal ar yr un pryd.
* Oherwydd eu bod yn pysgota o fewn ffiniau 12 milltir dyfroedd Ynys Manaw, mae eu hôl troed carbon yn isel iawn hefyd o gymharu â physgodfeydd cregyn bylchog eraill o amgylch y byd.
* Mae monitro lloeren ar weithgareddau’r cychod hefyd wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i wyddonwyr môr am ymdrech gymharol, proffidioldeb, effaith ar wely’r môr, ymddygiad y pysgotwyr a llawer mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2011