Prifysgol Bangor yn cryfhau ei chysylltiadau ymchwil â Brasil
Ar ôl llofnodi cytundeb cydweithio ar ymchwil gyda Sefydliad Ymchwil São Paulo (FAPESP) ym Mehefin 2012, fel mai Bangor oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i sefydlu partneriaeth ymchwil â FAPESP, mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi’r projectau ymchwil cyntaf sydd i’w cyllido o dan y rhaglen gydweithio.
Mae’r rhaglen wrthi’n cefnogi tri phroject ymchwil sy’n cysylltu ymchwilwyr o Fangor ac Universidade de São Paulo yn nhalaith São Paulo, Brasil. Dyma’r projectau a gefnogir:
• Lleoli ecosystemau morol bregus ar Ysgafell Brasil: Cynyddu posibiliadau ymchwil i’r eithaf, Dr Andrew J. Davies (Bangor), Paulo Y.G. Sumida (Universidade de São Paulo)
• Integreiddio prosesau ecolegol morol ar raddfeydd gofodol lluosog ym mharth arfordirol Brasil, Dr Stuart Jenkins (Bangor), Áurea Maria Ciotti (Universidade de São Paulo)
• Ecosystemau Morol Trofannol a Thymherus - Ymaddasu ar gyfer Byd Newidiol, Dr Ian McCarthy, Yr Athro Dr. Alexander Turra (Universidade de São Paulo)
Mae’r cyfan o’r tri phroject yn adlewyrchu dylanwad rhyngwladol a chryfderau ymchwil Bangor ym meysydd Gwyddorau Môr ac Ecoleg Daear. Gan roi sylwadau ar y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, “Mae datblygu ymchwil ryngwladol yn flaenoriaeth ar gyfer Prifysgol Bangor. Mae Brasil yn prysur ddatblygu’n archbŵer rhyngwladol o ran ymchwil. Mae’r projectau ymchwil hyn, a gyllidir ar y cyd gan Brifysgol Bangor a FAPESP, yn gam pwysig yn natblygiad cydweithrediadau ymchwil newydd a chryf rhwng Bangor a phrifysgolion eraill ym Mrasil.”
Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i sefydlu partneriaeth ymchwil â FAPESP, a hynny’n adlewyrchu ei huchelgais i ddatblygu ymhellach ei phroffil rhyngwladol. Mae Prifysgol Bangor eisoes yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Gwyddoniaeth heb Ffiniau’, a fydd yn arwain at 100,000 o fyfyrwyr o Frasil yn astudio yn y prifysgolion gorau ledled y byd dros y blynyddoedd nesaf.
Sefydlwyd FAPESP ym 1962, ac mae’n sefydliad cyhoeddus annibynnol â chenhadaeth i feithrin ymchwil yn natblygiad gwyddonol a thechnolegol Talaith São Paulo. Mae’n un o’r prif asiantaethau cyllido ar gyfer ymchwil gwyddonol a thechnolegol ym Mrasil. Caiff ei ystyried yn batrwm delfrydol ar gyfer cyllido ymchwil arloesol a chyfnewid academaidd, ac mae ganddo filoedd o gontractau ar gyfer cyfnewid academaidd, ysgoloriaethau a phrojectau ymchwil. Ar hyn o bryd mae gan FAPESP fwy na 30 o bartneriaethau â sefydliadau AU a Sefydliadau Ymchwil, yn cynnwys 12 o brifysgolion yn DU; Bangor yw’r gyntaf yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013