Prifysgol Bangor yn cyfrannu at dechnoleg ‘Adeiladau fel Pwerdai’
Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn cyfrannu at broject ymchwil a allai sicrhau bod Cymru’n rhoi arweiniad byd-eang ym maes technoleg ynni adnewyddadwy.
Lansiwyd y gyfleuster gweithgynhyrchu peilot newydd gan yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ddiweddar ym Mharc Ynni Baglan, ger Port Talbot. Mae’r gyfleuster yn golygu y bydd Cymru ar flaen y gad o ran technoleg ynni adnewyddadwy byd-eang.
Trwy ddechrau llinell gynhyrchu beilot ym, fe wnaethant hefyd roi’r DU ar drothwy diwydiant newydd £1 biliwn a fydd yn chwyldroi’r byd adeiladu ac yn cyfrannu’n sylweddol at dargedau ynni adnewyddadwy.
Mae buddion amgylcheddol enfawr hefyd yn atgyfnerthu prosiect Baglan, a allai leihau allgynnyrch CO2 y DU o filiynau o dunelli bob blwyddyn.
Mae’r dechnoleg yn canolbwyntio ar gynnyrch newydd a fydd, yn ei dro, yn troi adeiladau yn orsafoedd pŵer. Bydd yr uned gynhyrchu beilot yn SPECIFIC yn datblygu cynnyrch haenau dur a gwydr swyddogaethol i’w cynnwys mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes ac adeiladau newydd, gan alluogi waliau a thoeau i gynhyrchu, storio a rhyddhau ynni.
Bydd y ffaith fod hyn yn hawdd i’w ddefnyddio yn helpu i fynd i’r afael â phrinder cyflenwad ynni yn fyd-eang, sy’n cael ei ragweld yn gyffredinol, gan ddarparu ffynhonnell ynni ddibynadwy ar gyfer perchnogion a deiliaid adeiladau wrth ei defnyddio.
Wrth agor y Gyfleuster, dywedodd Mr Cable: “Mae nawdd ariannol o £10miliwn gan y Llywodraeth ar gyfer prosiect SPECIFIC yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd ymchwil prifysgol o’r radd flaenaf yn dod ynghyd yn y sector preifat.
“Bydd y ganolfan hon yn cyflymu’r broses o fasnacheiddio haenau diwydiannol arloesol, gan greu sector gweithgynhyrchu cwbl newydd a chyfleoedd busnes newydd, heb sôn am y buddion amgylcheddol hirdymor, gan gynnwys troi adeiladau yn ffynonellau pŵer.
“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn sectorau uwch-dechnoleg gwerth uchel lle gall y DU fanteisio’n gystadleuol a hyrwyddo twf economaidd.”
Mae’r prosiect pum mlynedd, gwerth £20miliwn yn SPECIFIC, un o chwe Chanolfan Arloesedd a Gwybodaeth yn y DU, yn cael cefnogaeth o £10miliwn gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a’r Bwrdd Strategaeth Technoleg. Mae £2miliwn arall gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod natur strategol ac effaith economaidd bosibl y Ganolfan Arloesedd a Gwybodaeth, sy’n rhoi ysgogiad ychwanegol iddi.
Mae grŵp ymchwil Dr Peter Holliman yn Ysgol Gemeg Prifysgol Bangor yn cydweithio’n agos efo partneriaid SPECIFIC i ddatblygu celloedd solar ar gost isel. Targedau allweddol yw cynhaeaf golau i gynyddu effeithiolrwydd tra hefyd yn datblygu cynhyrchu cost isel er mwyn lleihau costau a manteisio ar y dechnoleg.
Eglurodd Dr Holliman: “Rydym yn hynod falch o groesawu Cymrawd Trosglwyddo Technoleg SPECIFIC, Dr Matthew Davies, i Fangor i weithio ar y project hwn gyda’n cydweithwyr SPECIFIC. Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflymu masnacheiddio technolegau newydd, megis celloedd solar, a sefydlu’r wybodaeth honno’n gadarn o fewn diwydiant ym Mhrydain. Mantais fawr defnyddio SPECIFIC i wneud hyn yw ei fod yn dod ag ystod eang o wyddonwyr, peirianwyr a diwydiant at ei gilydd er mwyn mynd â thechnoleg allan o’r labordy ac i fyd gwaith. Mae gan wledydd Prydain draddodiad maith o arloesi a dyfeisio ac mae’n bwysig bod technoleg yn cael ei throsglwyddo i ddiwydiant er mwyn creu swyddi a chyfoeth.”
“Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad maith o weithio gyda diwydiant. Un o swyddogaethau allweddol Prifysgol fodern yw dod â manteision masnachol i’r ardal. Mae gweithio gyda SPECIFIC yn ffordd bwysig o hybu arloesi yng Nghymru gan ddod â gwyddonwyr a pheirianwyr arbenigol i’r rhanbarth i greu cyfoeth a swyddi yng Nghymru,” ychwanegodd.
Oherwydd bod hwn yn ddiwydiant newydd, bydd swyddi newydd yn cael eu creu, a bydd angen i’r peirianwyr gael ‘sgiliau ynni gwyrdd’, er enghraifft. Mae’n debygol hefyd y bydd y swyddi newydd hyn yn cael eu creu i bobl sy’n byw yn yr ardal leol er mwyn cyflenwi galw lleol. Wrth i drigolion ddechrau defnyddio “atebion gwyrdd” yn eu cartrefi, boed mewn tai newydd neu adnewyddu tai presennol, bydd mwy o ddatblygwyr a chwmnïau eraill yn dod i’r farchnad, gan greu mwy o swyddi ar gyfer y galw cynyddol. Bydd swyddi newydd yn cael eu creu mewn cynhyrchu, ond hefyd yn y maes cyflenwi a gosod, gan gyfrannu hefyd at gyflawni targedi 2020 ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012