Prifysgol Bangor yn cyfrannu at Ganolfan newydd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru)
Mae Prifysgol Bangor, ochr yn ochr â'i phrifysgolion partner, Caerdydd, Abertawe a De Cymru, wedi derbyn £2.7M ar gyfer 'Canolfan PRIME Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys'.
Bydd y cyllid gan Ymchwil a Gofal Iechyd Cymru yn cefnogi Canolfan PRIME Cymru i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a’r tu hwnt, drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel i bynciau sydd â blaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal sylfaenol, brys a heb ei drefnu.
Bwriad y ganolfan ymchwil yw gwneud Cymru'n arweinydd byd-eang mewn gofal sylfaenol a brys drwy gynhyrchu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau, ymyriadau a gwelliannau i wasanaethau, a gweithredu canfyddiadau ar draws y gwahanol ddisgyblaethau, yn cynnwys meddygaeth teulu, nyrsio cymunedol, deintyddiaeth, fferyllfa, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, gofal cymdeithasol, gofal brys a heb ei drefnu.
Mae ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol gan fod 90% o gyswllt pobl â'r GIG yn digwydd yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gosodiadau ysbyty. Mae gofal sylfaenol cadarn yn hanfodol i'r gwasanaeth iechyd weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon yn gyffredinol. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae nifer y bobl sydd â phroblemau gofal iechyd a chymdeithasol cymhleth yn cynyddu.
Mae'r gwaith o reoli cyflyrau tymor hir fel diabetes, asthma, COPD, epilepsi a chlefyd y galon wedi symud o ysbytai i ofal sylfaenol. Mae adsefydlu a hybu hunan-reoli hefyd yn cael eu rheoli fwyfwy yn y gymuned. Mae defnydd priodol o wasanaethau gofal heb ei drefnu a gofal brys yn hanfodol i ddarparu gofal brys o safon uchel, ac i wasanaethau gofal sylfaenol, brys a chymdeithasol effeithlon.
Mae ymchwil o safon uchel yn hollbwysig i ddylanwadu ar ofal cleifion, ailgynllunio gwasanaethau a nodi cyfleoedd i arbed costau i'r GIG. Bydd y ganolfan yn adeiladu ar feysydd presennol o ragoriaeth wyddonol yng Nghymru gyda themâu ymchwil craidd yn canolbwyntio ar gyflyrau tymor hir, gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf a gofal iechyd darbodus, heintiau ac ymwrthedd i antibiotig, gofal brys a heb ei drefnu (yn cynnwys gofal cyn-ysbyty), diogelwch cleifion a gwella gofal iechyd, yn ogystal ag atal, sgrinio a diagnosis cynnar.
Meddai'r Athro Richard Neal o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, sy'n Gyfarwyddwr Cyswllt Canolfan PRIME Cymru: ‘Mae'n wych bod Bangor yn rhan o'r fenter hynod bwysig hon, a fydd yn arwain at ymchwil i ofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru sy'n gystadleuol yn rhyngwladol. Mae'r arbenigedd penodol y mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn ei gyfrannu at hyn yn cynnwys adsefydlu cleifion ag afiechyd cronig, rhoi diagnosis cynnar o ganser, ac arloesi mewn treialon clinigol. Bydd ariannu Canolfan PRIME Cymru yn ei galluogi i greu rhagor o grantiau a fydd yn cynyddu nifer ac ansawdd astudiaethau ymchwil yng ngogledd Cymru, a fydd o fudd i'n poblogaeth a'r economi iechyd leol.’
Meddai'r Athro Adrian Edwards o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, a fydd yn arwain y Ganolfan:
“Mae hwn yn gyfle gwych i wneud yr ymchwil, gyda chleifion a'r cyhoedd, ac ar eu cyfer, sydd ei hangen gymaint yn y meysydd hollbwysig hyn o'r GIG. Ar adeg o sialensiau mawr i'r GIG, a phoblogaeth sy'n heneiddio gydag anghenion iechyd a gofal cynyddol gymhleth, mae gwasanaethau gofal sylfaenol a brys effeithiol ac o ansawdd da, sy'n canolbwyntio ar y claf, yn hollol hanfodol i'r GIG yn gyffredinol i ddarparu'r gofal iechyd y mae ar gleifion eu hangen a'i eisiau.”
Meddai'r Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rydw i'n hynod falch bod gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ganolfan o ragoriaeth ymchwil mewn gofal sylfaenol a brys yn awr. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Ganolfan PRIME yn dangos ein hymroddiad i ariannu ymchwil a all gael effaith gwirioneddol ar iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru.”
Rhith-sefydliad amlweddog, cenedlaethol yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gynt), a gyllidir ac a oruchwylir gan Isadran Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2015