Prifysgol Bangor yn cyfrannu i’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru
Mae’r , Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor a Cyfarwyddwr RIVIC (Sefydliad Cyfrifiadura Gweledol yng Nghymru), Prifysgol Bangor; wedi i phenodi i Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, John Harries.
Mae hi a’r Athro Bridget Emmett, Athro Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Bangor; a Phennaeth Safle, Canolfan Ecoleg a Hydroleg (NERC), Bangor, ymysg y 17 arbenigwyr amlwg sydd wedi’u penodi i’r Cyngor gyntaf. Bydd yn atebol, ac yn cynghori Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ar ystod llawn o faterion ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried y wyddoniaeth gyffredinol sy’n cael ei defnyddio i gynorthwyo datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, a bydd yn rhoi’r lefel uchaf o gyngor gwyddonol annibynnol i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Meddai’r Athro Sian Hope:
“Bydd y cyngor yn cynghori ar pob mater lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael effaith ar Gymru; mae hyn yn cynnwys adfywiad economaidd ac ansawdd bywyd i bobol y genedl ac rwyf yn ei ystyried yn anrhydedd ac wrth fy modd i gael chwarae rhan yn y dasg hanfodol hyn.”
Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau wedi croesawu’r penodiadau.
“Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn bynciau allweddol sydd â rhan hollbwysig i’w chwarae i ddatblygu ac adeiladu economi a ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd y Cyngor Cynghori annibynnol newydd hwn yn rhoi’r arweiniad a’r cyngor arbenigol i helpu inni gyflawni ein gweledigaeth.
“Hoffwn ddiolch i’r panel o arbenigwyr amlwg a chydnabyddedig, sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth newydd i Gymru.”
Meddai’r Athro Harries:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i Gymru, ac i minnau. Byddaf yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar y Cyngor newydd i nodi gwyddoniaeth a thechnoleg o safon fyd-eang ym mhrifysgolion Cymru, diwydiant, llywodraeth a’r trydydd sector, fydd yn sylfaen ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Bydd yn fraint i weithio â’r grŵp hwn o wyddonwyr a pheirianwyr o’r safon uchaf sy’n rhan o’r Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth newydd i Gymru.”
Bydd y Cyngor newydd dan gadeiryddiaeth y Prif Gynghorydd Gwyddonol, a bydd yn cynnwys cyd-gadeirydd annibynnol, sef yr Athro Chris Pollock (cyn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd, Aberystwyth). Mae’r Cyngor yn uniongyrchol atebol i’r Athro Harries, yn hytrach na Gweinidogion, ac mae’r penodiadau’n ddi-dâl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010