Prifysgol Bangor yn cyhoeddi 70 Ysgoloriaeth Ymchwil Ôl-radd ychwanegol
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil newydd am y drydedd flwyddyn yn olynnol. Mae’r lleoedd yn ran o raglen bum mlynedd o ehangu ôl-radd y Brifysgol. Fe’u crëwyd hefyd fel rhan o ddathliadau 125 mlwyddiant y Brifysgol yn 2009.
"Mae cymuned ôl-radd gref yn elfen hanfodol bwysig mewn unrhyw brifysgol ryngwladol sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil. Yn ogystal â chyfrannu at dwf pellach yn ein cymuned myfyrwyr ôl-raddedig, bydd dros hanner y myfyrwyr yn cynorthwyo busnesau sy’n gweithio ym meysydd allweddol i’r economi Gymreig. Bydd hyn yn eu galluogi i gael mynediad at yr arbenigedd sy’n bodoli o fewn y Brifysgol er mwyn datblygu’u busnes," meddai'r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.
"Mae'r cynllun Ysgoloriaethau'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr gorau i weithio gydag academyddion mwyaf blaenllaw'r Brifysgol. Mae'n rhan o'n strategaeth i feithrin rhagoriaeth mewn ymchwil a chynyddu'r gallu i ymchwilio" meddai'r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Menter y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol yn cynnig 18 Ysgoloriaeth Ymchwil y Dathlu a 28 Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS), a gefnogir gan ESF.
Mae’r Ysgoloriaethau’r Dathlu yn grantiau pwysig dros ben. Ceir efrydiaethau PhD tair blynedd, sy’n cynnwys ffioedd, cyflog blynyddol a lwfans ymchwil, a bwrsariaethau PhD tair blynedd, sy’n rhoi cyflog blynyddol. Mae'r Brifysgol yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr o safon eithriadol uchel o Brydain, Ewrop neu'n rhyngwladol. Gellir ymgeisio ar-lein drwy wefan y Brifysgol.
Mae’r rhaglen KESS yn darparu Ysgoloriaethau MRes a PhD, sy'n cael eu cyflawni ar y cyd gyda busnesau. Mae'r rhaglen ymchwil yn canolbwyntio ar sectorau sydd o flaenoriaeth i'r economi Gymreig. Bydd pob ysgoloriaeth KESS yn rhoi cyflog blynyddol a lwfans ymchwil. Nid oes raid i ddeiliaid yr ysgoloriaethau dalu ffioedd y Brifysgol chwaith.
Mae KESS yn fenter sgiliau uwch i sector addysg uwch Cymru gyfan a chaiff ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector. Nod y rhaglen yw darparu'r sgiliau ymchwil a datblygu uwch sydd eu hangen er mwyn i’r economi wybodaeth ffynnu. Caiff ei chyllido’n rhannol drwy raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
Mae pob Ysgolor KESS yn ymgymryd â rhaglen hyfforddiant integredig, sy'n cynnwys ymchwil, mentergarwch a sgiliau busnes, yn arwain at Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Yn ogystal â hyn, mae rhaglen KESS yn unigryw yn y modd y mae'n defnyddio cefnogaeth ESF i gyflwyno rhaglen datblygu sgiliau lefel uwch ar y cyd gyda chyflogwyr.
Dywedodd Yr Athro John G. Hughes: “Mae project KESS yn gyfle rhagorol i ni bartneru ein sgiliau efo busnesau o bob maint yn y rhanbarth i greu gwybodaeth newydd drwy ymchwil ar y cyd, a thrwy hynny gynyddu ymhellach ein cyfraniad i'r economi."
Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i'r wefan .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2011