Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad hyffordd i fusnesau lleol
Fe wnaeth cwmnïau lleol sy’n gweithio ar draws cemeg, gwyddorau bywyd a gwyddorau deunyddiau, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i ddod i ddigwyddiad hyfforddi cyntaf Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Sgiliau Gwyddonol (WINSS) a gynhaliwyd ar gyfer Mentrau Bychain a Chanolig lleol.
Mae’r sector diwydiannol bychan hwn, sy’n brysur dyfu, yn creu cynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol ar draws amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys cyflwyno cyffuriau, dyfeisiadau meddygol, biodrawsffurfiant a biosynhwyryddion. Mae’r rhain yn sectorau diwydiannau sy’n brysur ddatblygu. Cânt eu cynrychioli eisoes gan nifer o gwmnïau bychain yn yr ardal. Ffactor hanfodol yn nhwf a llwyddiant y cwmnïau hyn yw’r gallu i ddod o hyd i weithlu medrus iawn, neu ddal gafael arnynt. Mae hyn yn galluogi i gwmnïau dyfu. Y mae hefyd yn gweithredu fel catalydd i ragor o fuddsoddi a symud tuag at i mewn o gwmnïau eraill - sydd hefyd yn awyddus penodi staff gyda’r sgiliau arbenigol a’r arbenigedd cywir. Mae project WINSS yn darparu amrywiaeth o hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol i ddatblygu’r arbenigedd sydd ei angen gan y sector.
Pwysleisiodd Dr Mike Beckett, Pennaeth yr Ysgol Cemeg, bwysigrwydd y project WINSS er mwyn darparu’r cyfleoedd hyfforddiant sgiliau i’r Mentrau Bychain a Chanolig lleol. Fe wnaeth Dr June Frisby o’r Waterford Institute of Technology (WIT), Rheolwr y project WINSS, cyflwyno’r rhaglen ymchwil a hyfforddiant yn WIT. Bu i Dr Hongyun Tai, trefnydd y digwyddiad ac arweinydd y project WINSS ym Mangor, gyflwyno’r rhaglen ymchwil a hyfforddiant WINSS ym Mhrifysgol Bangor.
Yn y digwyddiad, rhoddodd siaradwyr arbenigol o Agilent & Bruker sgyrsiau ar ddwy dechneg dadansoddi a nodweddu bwysig ar gyfer moleciwlau a macromoleciwlau (Gel Permeation Chromatography (GPC) a Chyseinedd Magnetig Niwclear (NMR)). Bu i’r gweithdai GPC a NMR yn y prynhawn ddenu cynulleidfaoedd da, yn cynnwys y rhai o Fentrau Bychain a Chanolig.
Mae’r tîm WINSS o Brifysgol Bangor a WIT yn croesawu cwmnïau lleol i brofi’r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael i fusnesau ym Mangor a Waterford.
Mae WINSS yn broject €2.6 miliwn a gyllidir dan raglen INTERREG IVA 2007-2013 Cymru Iwerddon, ac a reolir yng Nghymru gan Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012