Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod croesawu arbennig i fyfyrwyr lleol
Daeth oddeutu 100 o fyfyrwyr newydd o ogledd Cymru, sydd ar fin dechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Bangor, ac a fydd yn teithio bob dydd i’r brifysgol, i’r Brifysgol ddoe (16 Medi) er mwyn cael cyfle arbennig i gwrdd â’i gilydd a dod i adnabod y brifysgol
Rhoddir llawer o sylw i’r ‘Wythnos Groeso’, sef yr wythnos o weithgareddau cyn i’r gwaith academaidd ddechrau pan gaiff myfyrwyr gyfle i ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd, gwneud ffrindiau a dysgu’r hyn maent angen ei wybod am y brifysgol, y cwrs a’r ardal.
Wrth gwrs, mae’r rhaglen o weithgareddau yn agored i bob myfyriwr, boed os ydynt yn byw yn neuaddau’r brifysgol neu’n teithio i Fangor bob dydd. Trefnir rhai gweithgareddau gan ysgolion academaidd ac mae eraill yn agored i bawb. Mae’r gweithgareddau ‘torri’r garw’ yn cynnwys cwisiau, teithiau i lan y môr a nifer o weithgareddau eraill fel y gall myfyrwyr gael y cyfle i gyfarfod â dod i adnabod ei gilydd.
Ond mae’r cyfle i wneud ffrindiau yn y dyddiau cynnar hyn yn wahanol i fyfyrwyr sy’n teithio i mewn bob dydd, sydd efallai’n treulio llai o amser ym Mangor ac yn dal i fyw gartref.
Mewn ymateb i hyn, mae Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod arbennig i roi cyfle i fyfyrwyr dibreswyl ddod i adnabod ei gilydd.
Fel yr esbonia Maria Lorenzini, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr Prifysgol Bangor:
“Mae dod i brifysgol yn brofiad newydd a chyffrous i bob myfyriwr. Mae’n gyfle i ehangu gorwelion, cyfarfod â phobl o gefndiroedd gwahanol, gwneud ffrindiau oes ac, wrth gwrs, cwblhau eich gradd. Ni ddylai bod yn fyfyriwr sy’n byw gartref eich rhwystro rhag cael y profiad gorau posibl, ond weithiau gall fod yn anoddach i fyfyrwyr sy’n byw gartref deimlo eu bod yn chwarae rhan lawn ym mywyd prifysgol. Dyna pam fod Cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen arbennig i fyfyrwyr sy’n byw gartref.”
Cynhaliwyd y rhaglen ers sawl blwyddyn bellach. Bu dros 130 o fyfyrwyr lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen y llynedd, gyda nifer yn dweud bod y diwrnod wedi rhoi hyder iddynt ddechrau yn y brifysgol fel myfyriwr di-breswyl a’u helpu i wneud ffrindiau.
Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd: “Roedd yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous ynglŷn â dechrau yn y brifysgol. Dysgais am y gwasanaethau sydd ar gael i mi, ond yn bennaf oll roeddwn yn teimlo bod gennyf gefnogaeth ffrindiau newydd a staff” a “Roedd y rhaglen cyn-dechrau yn ffordd wych o dorri’r garw cyn gwallgofrwydd yr Wythnos Groeso.”
Cafodd y myfyrwyr newydd a fu’n cymryd rhan yn y sesiwn daith o amgylch y brifysgol a chyfle i bori drwy stondinau gwybodaeth o blith y gwasanaethau a gynigir gan y brifysgol, roedd cyfle i gael cyngor gan fyfyrwyr presennol a rhoddwyd croeso cyffredinol a chyflwyniad i fywyd prifysgol a sgyrsiau gan yr adran gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a nifer o fentrau eraill yn y Brifysgol.
Roedd Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol, sef myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn sydd wedi cael eu hyfforddi, ar gael hefyd i fod o gymorth yn ystod y dydd. Mae Arweinwyr Cyfoed yn chwarae rhan bwysig ym Mangor, yn cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt addasu i fywyd prifysgol. Maent yn trefnu gweithgareddau, cynnal teithiau tywys o amgylch y Brifysgol a chroesawu myfyrwyr yn ystod yr wythnos groeso ac yn eu helpu i ddod i adnabod ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2014